Triniaeth ffoaduriaid Wcráin yn Calais yn 'niweidio'r DU'
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiadau bod ffoaduriaid o Wcráin yn cael eu hatal rhag teithio i'r DU o Ffrainc wedi niweidio enw da'r DU, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mark Drakeford fod y golygfeydd yn Calais yn groes i'r ffordd y mae pobl y DU yn disgwyl i'w llywodraeth weithredu.
Yn gynharach ddydd Mawrth, fe wnaeth yr is-ysgrifennydd yn Swyddfa Cymru, David TC Davies, gydnabod y feirniadaeth nad ydy ei lywodraeth yn gwneud digon i gynorthwyo ffoaduriaid o Wcráin.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod eu trefniadau i gynnig cymorth yn cael eu hadolygu'n gyson.
Mae bron i 300 o bobl wedi cael eu troi i ffwrdd wrth geisio croesi i'r DU, meddai swyddogion Ffrainc wrth y BBC.
Dywedodd rhai pobl o Wcráin wrth y BBC hefyd eu bod yn wynebu aros am dros wythnos dim ond am apwyntiad ym Mharis.
Yn ôl y Swyddfa Gartref, mae'r DU wedi rhoi fisas i 300 o ffoaduriaid Wcreinaidd hyd yn hyn trwy ei chynllun newydd, ac mae 17,700 o geisiadau yn mynd rhagddynt gan bobl sydd eisiau ailymuno â pherthnasau.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Ben Wallace wrth y BBC y gallai, ac y byddai'r llywodraeth yn gwneud mwy i gefnogi ffoaduriaid, ac y byddai ei adran yn helpu'r Swyddfa Gartref i gyflymu'r system.
Yn dilyn y feirniadaeth yn Ffrainc bod yna "ddiffyg dyngarwch" yn systemau'r DU, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel bod ei hadran wedi danfon tîm ar frys i helpu yn Calais.
Ond mae bron i 600 o ffoaduriaid yn sownd yn Calais, gyda nifer yn dweud iddyn nhw gael eu troi i ffwrdd oherwydd diffyg gwaith papur. Mae Ms Patel yn gwadu bod unrhyw un wedi eu troi'n ôl o'r ffin.
"Mae'r adroddiadau o'r hyn sydd wedi digwydd yn Calais wedi niweidio enw da'r wlad hon ar draws y byd," dywedodd Mark Drakeford yn ystod sesiwn holi'r Prif Weinidog yn Senedd Cymru.
"Pan ddywedodd yr Ysgrifennydd Cartref ei bod yn danfon tîm ar frys i Calais i helpu pobl, tri pherson gyda bocs o KitKat a chreision oedd e yn y pen draw.
"Nid dyna yn bendant y byddai pobl y wlad hon yn disgwyl i'r llywodraeth fod yn ei wneud."
Ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd yr Is-Weinidog yn Swyddfa Cymru, David TC Davies: "Dwi'n derbyn y feirniadaeth."
Pwysleisiodd fod Llywodraeth y DU "eisiau cymryd nhw i fewn - ond mae'n rhaid cael trefn i 'neud yn siŵr ein bod ni'n gwybod yn union pwy sy'n dod fewn".
Ychwanegodd: "Ry'n ni wedi troi pethau rownd yn eitha' cyflym - erbyn hyn [mae] lot mwy na 300 wedi cael dod.
"Dwi eisiau i'r bobl dda 'ma gael dod. 'Da ni wedi rhoi £175m o gymorth ariannol i Wcráin sy'n mynd i roi cymorth ymarferol i'r wlad."
Cynyddu sancsiynau
Ddydd Llun, cafodd cynllun i galedu a chyflymu sancsiynau'r DU yn erbyn cynghreiriaid Vladimir Putin ei gymeradwyo gan Dŷ'r Cyffredin.
Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd ei Mesur Troseddau Economaidd yn atal Rwsiaid cyfoethog rhag defnyddio Llundain i wyngalchu arian a chuddio enillion.
Cytunodd pob plaid i'w gefnogi mewn ymdrech i helpu i atal ymosodiad Mr Putin ar Wcráin.
"'Da ni wedi pasio deddf ddoe, ond mae'n bwysig gweithio o fewn y gyfraith," meddai Mr Davies wrth Dros Frecwast.
"Roedd hi'n bwysig newid y gyfraith ddoe neu fel arall [byddai'r] llywodraeth yn gallu wynebu cais am damages. Rhaid cael prawf fodd bynnag ac mae'n rhaid mynd drwy broses."
'Nerfus iawn'
Mae gwraig Mr Davies yn dod o Hwngari, gwlad sy'n ffinio ag Wcráin.
"Mae 300,000 o bobl ethnig Hwngaraidd yn byw yn Wcráin," meddai, "[mae] Llywodraeth Hwngari yn helpu pobl i setlo a chynnig pasbort i rai o dras Hwngaraidd.
"[Mae] pobl Hwngari gan gynnwys fy nheulu i yn nerfus iawn."
Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi galw ar Lywodraeth y DU "i ddangos yr un fath o frys moesol y mae sefyllfa o'r fath ddifrifoldeb - argyfwng mudo mwyaf Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd - yn ei fynnu".
Gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, wrth Mr Drakeford pa waith sy'n mynd rhagddo i ddeall effaith y rhyfel ar gynhyrchu bwyd, gan fod Wcráin a Rwsia'n allforio 30% o anghenion gwenith y byd.
Atebodd Mr Drakeford bod y DU yn llai dibynnol arnyn nhw na rhannau eraill o'r byd ond fe fydd yna effaith ar gynhyrchu bwyd. Mae swyddogion wedi cynnal asesiadau, meddai, a Llywodraeth y DU fydd yn gwneud y "penderfyniadau allweddol" o ran ymateb i'r effeithiau hynny.
'Cynghorau Cymru'n barod i helpu ffoaduriaid'
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi ysgrifennu at Boris Johnson gan alw am "fwy o eglurder ac i weithredu gyda mwy o frys mewn ymateb i argyfwng y ffoaduriaid".
"Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn barod i wneud popeth posib i helpu'r rheiny sy'n ffoi rhag y gwrthdaro yn Wcráin ac yn gwneud paratoadau," meddai CLlLC.
Ychwanegodd bod arweinwyr awdurdodau lleol Cymru'n galw am ddileu'r cynllun fisa "cyfyngus a biwrocrataidd" presennol fel bod ffoaduriaid Wcreinaidd "yn gallu dod i Gymru a chael lle diogel mor hawdd a chyflym â phosib".
Dywed Llywodraeth y DU: "Mae'r llwybrau yr ydym wedi eu rhoi ar waith yn dilyn trafodaethau helaeth gyda phartneriaid Wcreinaidd.
"Mae'r darlun yn gymhleth ac yn symud yn gyflym ac wrth i'w sefyllfa ddatblygu byddwn ni'n parhau i adolygu ein cefnogaeth yn gyson."
Safodd ASau Prydain ar eu traed a chymeradwyo Arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky cyn iddo eu hannerch trwy gyswllt fideo brynhawn Mawrth - y tro cyntaf i arweinydd unrhyw wlad dramor roi datganiad uniongyrchol i'r siambr.
Dywedodd Syr Lindsay Hoyle, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, ei fod yn falch o ganiatáu cais "hanesyddol" Mr Zelensky, cyn yr anerchiad a ddechreuodd am 17:00.
Cafodd yr araith ei dangos ar sgriniau oedd wedi eu gosod yn y siambr.
Dywedodd bod sancsiynau i'w groesawu ond galwodd o'r newydd ar NATO am barth dim hedfan dros Wcráin gan ychwanegu bod dros 15 o blant wedi cael eu lladd ers dechrau'r rhyfel.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022