'Pawb yn reit ofnus' ar ffin Gwlad Pwyl ag Wcráin
- Cyhoeddwyd
Mae dau o Wynedd wedi disgrifio'r golygfeydd dirdynnol wrth i bobl ffoi o Wcráin i Wlad Pwyl wedi iddyn nhw deithio i'r ffin i helpu dosbarthu nwyddau dyngarol.
Bydd Tony Jones a Ffion McCarthy o Ddyffryn Nantlle yn treulio'r dyddiau nesaf yn gwirfoddoli mewn warws yn Korczowa, yr ardal ochr Gwlad Pwyl o'r ffin sydd agosaf at y ddinas Wcreinaidd, Lviv.
Yn yr oriau ers iddyn nhw gyrraedd, ar ôl hedfan i'r wlad ddydd Sul, maen nhw wedi gweld plant "yn cysgu ar y llawr".
Dywedon nhw hefyd mewn cyfweliad ar raglen Post Prynhawn bod o leiaf ddau berson wedi marw ar y ffin yn yr ardal nos Sul am fod y tymheredd yno mor oer.
"Mae o'n shocking a mae o'n 'neud fi'n emotional ofnadwy," meddai Tony, a welodd dioddefaint pobl gyffredin mewn sawl argyfwng ar draws y byd yn y cyfnod pan roedd yn aelod o'r lluoedd arfog.
"O'n i'n d'eud 'tha Ffion gynna 'dwi ar fin crio trw'r dydd wrth weld y plant bach'."
Mae'r ddau'n gwirfoddoli mewn warws sy'n cael ei redeg "24 awr y dydd" gan aelodau Brigâd Dân Warsaw, prifddinas Gwlad Pwyl.
Roedden nhw mewn cysylltiad uniongyrchol ag unigolion yn y wlad oedd yn help i awgrymu'r "ffordd ora'" o gyrraedd, sef hedfan i Kraków yn y lle cyntaf, a llogi car ar gyfer gweddill y daith.
Yn y warws, maen nhw'n helpu dadlwytho nwyddau sydd wedi eu casglu a'u rhoi mewn cerbydau sy'n eu cludo wedyn, fel rhan o gonfoi, i'w dosbarthu ymhlith pobl sy'n ceisio am loches ar y ffin.
Dywed Ffion eu bod wedi gweld "lot" o ffoaduriaid a "bwndeli o ddillad ar ochr y ffordd yn bob man" wrth iddyn nhw gludo nwyddau fel rhan o'r confoi yn eu car llog.
Mae prinder bysus a gyrwyr yn gur pen i'r awdurdodau, meddai, gan amharu ar ymdrechion i gludo ffoaduriaid i rannau eraill o'r wlad.
"Neithiwr oedd yna 5,000 wedi cyrraedd dros y ffin a dim ond 500 'naethon nhw lwyddo [i'w symud yn eu blaenau]."
'Poeni fwya 'am y plant'
Mae'r "ciws anferthol" ochr Wcráin o'r ffin yr un mor ddifrifol ag y maen nhw'n ymddangos mewn adroddiadau newyddion ar y teledu, medd Ffion.
Wrth drosglwyddo'r rhoddion i staff a gwirfoddolwyr ochr arall y ffin, mae rhai o'r ffactorau sy'n eu hwynebu nhw'n dod i'r amlwg.
"Ma' nhw'n d'eud mai'r plant maen nhw'n poeni amdan fwya' ar hyn o bryd - maen nhw'n cysgu ar y llawr," dywedodd Ffion.
"O'dd 'na at least dau 'di marw ar y border lle 'dan ni neithiwr, jyst am bod hi mor oer," ychwanegodd Tony.
Mae yna bwyslais hefyd ar sicrhau cymorth i ysbytai a milwyr Wcráin.
Y Ddraig Goch yn 'torri ias'
Mae'r ddau yn bwriadu teithio'n ôl ddydd Iau. "Jyst ffenest [o amser] oedd gynnon ni i 'neud gymaint ag oeddan ni'n gallu," medd Ffion.
"Ma' pawb yn cydweithio yma a ma' nhw'n ddiolchgar am y gefnogaeth a'r rhoddion."
Ychwanegodd bod "pawb wrth eu boddau" wrth weld y bathodynnau Draig Goch ar eu siacedi llachar.
"Ma' hwnna'n torri ias," meddai Ffion. "Ma' nhw'n siarad am Gareth Bale!"
Fe dynnodd y bathodynnau sylw un o newyddiadurwyr The Times oedd ar ei ffordd i ohebu yn Wcráin ei hun.
Ddydd Llun fe ddaeth cadarnhad bod Cymru wedi cyfrannu bron i £6.5m yn y pedwar diwrnod cyntaf ers lansiad Apêl Ddyngarol Wcráin y pwyllgor argyfyngau DEC.
Ond mae elusennau ar lawr gwlad wedi awgrymu bod angen annog i bobl ddangos cefnogaeth trwy roddion ariannol yn hytrach na thrwy roi nwyddau sydd "yn aml ddim yn cyfateb i anghenion pobl, ac sy'n ddrud i'w cludo".
O'i phrofiad personol ar y ffin hyd yn hyn, dywed Ffion bod yr awdurdodau yno "yn desbret am flancedi a sleeping bags, ac os' di pobl yn mynd i roi [nwyddau], i roi o mewn bagia', dim bocsus cardboard".
"Dyna be' 'di'r gwaith caled ochr hyn - tynnu bob dim allan o'r bocsus, a 'di o'm yn hawdd trosglwyddo fo mewn i geir er'ill ar y ffin.
"Meddyginiaeth a dillad cynnes a blancedi fwy na dim byd sydd angen, ac o ran arian - ia, bendant."
Mewn ymateb i gwestiwn a oes pryder yng Ngwlad Pwyl ynghylch y posibilrwydd o ymosodiad gan Rwsia yn fan'no, atebodd Tony: "Oes. Ma' pawb yn reit ofnus yma, a agosach at y ffin 'dan ni'n mynd ma'r pryder yn fwy."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2022