Wrecsam: Dyn 'yn erfyn am help' ambiwlans cyn marw
- Cyhoeddwyd
![George Ian Stevenson](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15AC9/production/_123577788_george_stevenson.jpg)
Bu farw George Ian Stevenson, 86 oed, ar ôl cael ei daro gan gar ac aros am ambiwlans nos Fercher
Mae teulu dyn 86 oed oedd yn "gorwedd yng nghanol y brif ffordd" yn "erfyn am help" yn dweud ei fod wedi marw ar ôl aros pedair awr am ambiwlans.
Cafodd George Ian Stevenson - oedd yn cael ei adnabod fel Ian - ei daro gan gar ger ei gartref yn Johnstown, Wrecsam, ddydd Mercher diwethaf.
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd ei deulu bod yr alwad 999 cyntaf wedi'i gwneud am 19:31. Ni wnaeth ambiwlans gyrraedd tan 23:37.
Er i ddau barafeddyg oedd yn digwydd pasio stopio i helpu, ni wnaethon nhw ei symud, rhag ofn y bydden nhw'n achosi anafiadau pellach iddo.
![Ellie a Sylvia](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/03A2/production/_123603900_teulumrstevenson.jpg)
Mae Ellie, wyres Ian Stevenson a'i weddw, Sylvia, yn galw am wella gwasanaethau ambiwlans
"Cafodd o'i adael yng nghanol y brif ffordd, mewn glaw trwm," dywedodd wyres Mr Stevenson, Ellie, 32.
"Roedd hi'n oer, roedd hi'n niwlog, roedd hi jyst yn noson ddiflas iawn iawn, ac fe gafodd ei adael yno am oriau, yn erfyn am help, aros am help."
Dywedodd Ellie bod ei thaid wedi aros yn ymwybodol ar y llawr am bedair awr, a'i fod i weld yn ymdopi, er y boen.
Ond, yn fuan ar ôl i'r ambiwlans gyrraedd, dywedodd ei fod wedi cael ataliad ar y galon a bu farw.
Ers colli ei thaid, mae Ellie wedi cychwyn deiseb yn galw am welliannau i'r gwasanaeth ambiwlans.
"Mae pobl yn dioddef ac yn wir, yn colli eu bywydau, oherwydd prinder ambiwlansys," dywedodd Ellie, wrth eistedd gyda'i nain, a gweddw Mr Stevenson, Sylvia, 83.
"Dyw hi ddim yn deg."
Mewn ymateb, dywedodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithrediadau gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod y gwasanaeth yn estyn eu "cydymdeimladau dwysaf" i deulu Mr Stevenson.
Wrth ddiolch i'r bobl a'i helpodd cyn i'r ambiwlans gyrraedd, dywedodd: "Ry'n ni'n gweithio mor gyflym ag y gallwn ni i sefydlu trefn y digwyddiadau yn llawn a byddwn ni'n cysylltu â theulu'r claf fel rhan o'r broses hon.
"Yr hyn allwn ni ddweud yn y cyfnod cynnar hwn yw ar adeg yr alwad, roedd pob un o'n cerbydau ambiwlans wedi'u hymrwymo i gleifion eraill yn y gymuned neu mewn ysbytai, lle'r oedd oedi wrth drosglwyddo yng ngogledd orllewin Cymru yn arbennig o anodd ar noson 2 Mawrth.
"Mae ein meddyliau gyda phawb oedd ynghlwm â'r digwyddiad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2022