Cymru yn gwneud pedwar newid i herio Ffrainc yn y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd
Bydd Josh Navidi a Seb Davies yn dechrau yn y rheng-ôl i Gymru wrth iddyn nhw groesawu Ffrainc i Gaerdydd yn y Chwe Gwlad nos Wener.
Clo ydy safle arferol Davies, tra bo Navidi wedi cael ei alw i'r garfan yn y dyddiau diwethaf ar ôl bod allan am bum mis gydag anaf i'w ysgwydd.
Mae'r ddau yn cymryd llefydd Ross Moriarty a Taine Basham fel blaenasgellwyr, tra bo Taulupe Faletau yn cadw ei le fel wythwr.
Mae'r canolwr Jonathan Davies wedi cael ei ffafrio dros Nick Tompkins, a'r prop Gareth Thomas yn lle Wyn Jones.
Dewis Francis er gwaethaf rhybuddion
Mae'r prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi dewis dechrau'r prop Tomas Francis, er iddo gael anaf i'w ben yn y golled i Loegr ddiwedd Chwefror.
Mae Owen Watkin a Josh Adams hefyd yn holliach ar ôl iddyn nhw hefyd ddioddef anafiadau pen yn Twickenham.
Mae'r asgellwr Louis Rees-Zammit yn ôl yn y garfan, ond bydd yn rhaid iddo fodloni ar le ar y fainc, wrth i Adams ac Alex Cuthbert gadw eu llefydd.
Roedd Cymru wedi cael eu hannog i beidio â dewis Francis, wedi iddo ymddangos yn sigledig ar ei draed ar ôl mynd benben â Watkin yn 20fed munud y gêm ddiwethaf.
Ond fe basiodd y prop asesiad anaf i'r pen cyn dychwelyd i'r cae.
Dupont yn holliach i Ffrainc
Roedd newyddion drwg i Gymru yn gynharach ddydd Mercher, wedi i gapten Ffrainc Antoine Dupont gael ei enwi yn eu tîm nhw ar gyfer y gêm yn Stadiwm Principality.
Roedd amheuon wedi bod a fyddai'r mewnwr yn holliach wedi iddo ddioddef anaf i'w fraich tra'n hyfforddi.
Mae'r Ffrancwyr wedi ennill eu tair gêm hyd yma yn y Chwe Gwlad eleni - yr unig wlad i wneud hynny.
Y gêm yn erbyn Ffrainc fydd y bedwaredd i Gymru yn y Chwe Gwlad eleni, wedi iddyn nhw gael eu trechu gan Iwerddon a Lloegr, ac ennill gartref yn erbyn Yr Alban.
Tîm Cymru
Liam Williams; Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Owen Watkin, Josh Adams; Dan Biggar (c), Tomos Williams; Gareth Thomas, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Adam Beard, Seb Davies, Josh Navidi, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Dewi Lake, Wyn Jones, Dillon Lewis, Ross Moriarty, Jac Morgan, Kieran Hardy, Gareth Anscombe, Louis Rees-Zammit.
Tîm Ffrainc
Melvyn Jaminet; Yoram Moefana, Gael Fickou, Jonathan Danty, Gabin Villière; Romain Ntamack, Antoine Dupont (c); Cyril Baille, Julian Marchand, Uini Atonio, Cameron Woki, Paul Willemse, Francois Cros, Anthony Jelonch, Gregory Alldritt.
Eilyddion: Peato Mauvaka, Jean-Baptiste Gros, Mohamed Haouas, Thibaud Flament, Dylan Cretin, Maxime Lucu, Thomas Ramos, Matthis Lebel.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2022