Llythyr gan yr awdur o Wcráin, Andrey Kurkov

  • Cyhoeddwyd
Andrey KurkovFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Andrey Kurkov

"Roedd bywyd arall wedi dechrau, bywyd rhyfel, bywyd sy'n gwneud i chi fod eisiau cysylltu â'ch ffrindiau a'ch teulu bob dydd i wneud yn siŵr eu bod yn dal yn fyw."

Dyma gyfieithiad o lythyr gan yr awdur o Wcráin Andrey Kurkov, sy'n adlewyrchu ar ddiwrnodau cyntaf y rhyfel a sut y bu i'w deulu ffoi o'u cartref yn Kyiv.

Gwrandewch ar y Llythyr o Wcráin ar BBC Radio Cymru gydag Ifan Huw Dafydd yn darllen.

Mae yna rai diwrnodau sy'n newid bywyd. Diwrnod eich priodas, er enghraifft. Mae yna ddiwrnodau eraill sy'n newid person, ei fyd tu mewn. Digwyddodd hyn i mi tair blynedd yn ôl, pan gollais fy rhieni o fewn mis i'w gilydd. Gwanwyn oedd hi. Roedd 'na flodau ar y coed ond yn sydyn daeth marwolaeth.

Mae yna rai diwrnodau na ddylent fyth ddigwydd oherwydd dydyn nhw ddim yn rhan o galendr arferol bywyd rhywun: dydyn nhw ddim yn rhan o galendr llawenydd naturiol, nac yn rhan o galendr gofidiau naturiol. Diwrnod na ddylai fyth fod wedi digwydd, ond fe wnaeth.

Fe ddaeth yn annisgwyl ar y pedwerydd ar hugain o Chwefror. Ar y diwrnod hwn, cafodd fy ngwraig a minnau ein deffro am bump o'r gloch y bore gan sŵn ffrwydrad uchel. Yna dau ffrwydrad arall. Ac awr ar ôl hynny, syrthiodd dwy roced arall ar Kyiv. A dyna ddechrau'r rhyfel.

'Roedd y strydoedd yn hollol wag yn y bore, prin ddim ceir'

Ar ôl i mi bwyllo ychydig, y peth cyntaf wnes i feddwl amdano oedd ei bod hi'n beth da nad oedd fy rhieni, Rwsiaid ethnig, wedi byw i weld y diwrnod hwn, y cywilydd hwn.

Roedd y strydoedd yn hollol wag yn y bore, prin ddim ceir. Fe wnes i gofio am y cynlluniau roeddwn i wedi'u gwneud ar gyfer y diwrnod hwnnw ac ocheneidio'n drwm.

Os cerddwch chi ugain munud o'n tŷ ni am hen dref Kyiv fe ddewch chi ar draws ysbyty, ac ar wythfed llawr yr ysbyty hwnnw roedd fy ffrind Valentin, meddyg adnabyddus, yn gorwedd ar ei hyd ac yn methu codi.

Mae'n ddiabetig a phan gafodd y Coronafeirws, roedd cymhlethdodau wedi golygu y bu'n rhaid torri ei goes dde i ffwrdd ac yna ei goes chwith. Roeddwn i wedi bwriadu mynd i'w weld ar y pedwerydd ar hugain o Chwefror, ond roedd y rhyfel wedi difetha'r cynlluniau hynny.

Mae'n dal yn yr ysbyty, ond mae wedi cael ei symud i ward ar lawr is. Does dim cleifion eraill. Does dim llawdriniaethau bellach.

Mae Kyiv wedi bod yn paratoi am ryfel ers amser maith - mewn rhyw ffordd ddigon tawel a digyffro am nad oedden ni'n credu bod rhyfel yn bosibl yn yr unfed ganrif ar hugain. Doedd llawer o'r preswylwyr ddim yn cymryd bygythiadau Putin o ddifrif. Roedd y caffis yn brysurach na'r arfer yn y diwrnodau olaf cyn y rhyfel. Roedd y bwytai'n orlawn a'r theatrau'n llawn dop.

Efallai fod pobl yn rhyw deimlo ym mêr eu hesgyrn y byddai'r bywyd braf hawdd hwn yn dod i ben cyn bo hir. Mae saethau coch wedi cael eu peintio ar waliau tai ers tro byd i ddangos y ffordd i'r lloches bomiau agosaf. Doedd y saethau ddim yn ein poeni. Roedden ni wedi dod i arfer â nhw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd y rhan fwyaf o lochesi bomiau wedi cael eu hadeiladu yn ystod y cyfnod Sofietaidd rhag ofn y byddai rhyfel gyda NATO. Nawr maen nhw'n amddiffyn Wcreiniaid rhag Rwsia, a ymosododd ar Wcráin oherwydd bod fy ngwlad i eisiau ymuno â NATO.

'Mae Putin wedi bod yn "chwifio'r gyllell" ers tro byd'

Hefyd, roeddwn i'n gwneud fy ngorau glas i beidio â meddwl am y posibilrwydd o ryfel. Roeddwn i'n ceisio peidio meddwl, ond yn methu. Roeddwn i'n dilyn y newyddion ac areithiau cyhoeddus gwleidyddion Rwsia. Roedd eu perfformiadau'n cynnwys mwy a mwy o bratiaith carchar. Roedd hyn yn arwydd eu bod yn troi eu cefnau ar y byd gwaraidd ac yn barod i weithredu yn ôl rheolau carchardai.

Un o brif reolau carcharorion a lladron yw: os codwch chi gyllell yn eich llaw, rhaid i chi ei defnyddio, rhaid i chi ladd y sawl rydych chi'n ei fygwth. Mae Putin wedi bod yn "chwifio'r gyllell" ers tro byd. Symudodd hanner byddin Rwsia i Wcráin a dechrau bombardio a bomio'r dinasoedd, ymosododd ar Wcráin o Felarws, o Rwsia ac o'r môr o gyfeiriad Crimea.

Mae'n ymddangos i mi na fu erioed ffrynt mor hir yn y byd - tair mil cilometr!

Ond wnaeth yr Wcreiniaid ddim ildio, doedden nhw ddim yn chwifio baneri gwyn, ond rhai melyn a glas.

Mae Kyiv yn deffro ac yn disgyn i gysgu i sŵn tanio parhaus a ffrwydradau. Mae cannoedd ar filoedd o deuluoedd â phlant wedi ffoi neu'n dal i geisio gadael.

Mae gen i gwpl o ffrindiau o wlad arall sy'n byw yma a dydyn nhw ddim yn gwybod beth i'w wneud. Maen nhw'n caru Kyiv ac Wcráin ac wedi symud yma i fyw am weddill eu hoes - mae'r gŵr yn wythdeg pum mlwydd oed. Mae ganddyn nhw gar, ond does dim digon o betrol yn y tanc. Ar y ffôn heno clywais ei wraig yn crio, yn anobeithio'n llwyr am nad yw ei gŵr eisiau gadael y fflat. Mae'n fflat hyfryd, ar lawr uchaf hen adeilad. Mae golygfa wych o'r ddinas i'w gweld o'u ffenestri.

Ychydig o fomiau sydd wedi disgyn yng nghanol hen dref Kyiv ar hyn o bryd, ond yn Kharkiv, mae'r opera, y ffilharmonig a'r brifysgol wedi cael eu bomio'n barod. O'r dwyrain daw barbariaid yr unfed ganrif ar hugain. 

Ffynhonnell y llun, Anadolu Agency/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Palas y Llywodraethwr yn Kharkiv yn dilyn bomio ddechrau Mawrth.

Fe wnaethon ni dreulio noson gyntaf y rhyfel gyda ffrind, awdur a newyddiadurwr o Loegr, Lily Hyde. Mae hithau hefyd wedi bod yn byw yn Kyiv ers amser maith ac yn caru Wcráin. Roedden ni'n meddwl bod ei fflat hi'n fwy diogel. Ar ben hynny, roedd trigolion ei thŷ wedi dod i gytundeb â swyddogion diogelwch y maes parcio tanddaearol gerllaw y byddai pawb yn cael mynd yno petai unrhyw fombardio.

Ar ôl i ni gyrraedd tŷ Lily, rydyn ni'n mynd ati ar unwaith i tsiarjo ein ffonau cyn troi ein cyfrifiaduron ymlaen. Distawrwydd llethol - roedd pawb yn darllen y newyddion. Cyn mynd i'r gwely, fe roddodd Lily rywfaint o jin eirin cartref i mi. Roeddwn i'n teimlo y byddai diod yn fy helpu i gysgu. Doeddwn i ddim yn disgwyl gallu cysgu'n hir.

'Fyddwn i byth yn dymuno pandemig ar neb, ond mae'n well gen i hynny na Putin'

Fe wnes i ddeffro am bump y bore. Roedd y fflat yn dawel. Agorais y ffenestr a chlywed ffrwydradau yn y pellter.

Am chwech o'r gloch, cododd fy ngwraig a minnau a disgwyl i'r cyrffyw ddod i ben. Fe wnaethon ni benderfynu mynd i'r pentref. Chwedeg milltir i'r gorllewin o Kyiv, mae gennym dŷ gyda gardd, ac rydyn ni wrth ein bodd yn cael mynd yno beth bynnag yw'r tymor.

Ym mis Mawrth 2020, oherwydd y pandemig, fe wnaethon ni symud i'r pentref ac aros yno tan y Nadolig bron. Fe wnaethon ni wylio'r eira'n dadleth, y glaswellt yn egino a'r blodau'n dechrau tyfu. Fe welson ni'r coed ceirios yn llawn blodau. O flaen ein llygaid, trodd y gaeaf yn wanwyn a throdd y gwanwyn yn haf. Wna i fyth anghofio'r flwyddyn corona hapus honno!

Fyddwn i byth yn dymuno pandemig ar neb, ond mae'n well gen i hynny na Putin. Mae'n anoddach o lawer gwybod beth wnaiff ef nesaf. Mae e mewn byncer yn rhywle ac yn barod i ddinistrio'r byd i gyd. A dydw i ddim yn gor-ddweud.

Yn ôl yn ein fflat ger Saint Sophia, gawson ni ychydig o funudau i gasglu ein stwff a gadael. Y diwrnod cynt roedd fy ngwraig wedi addo y bydden ni'n mynd â ffrind a'i mab gyda ni, ond roedd y ffrind yn tin-droi. Edrychais ar y map GPS ac allwn i ddim credu'r peth - roedd yn dangos bod y llwybrau i'r gorllewin yn hollol wag, dim tagfeydd traffig i'r pentref o gwbl!

Fe wnaethon ni gydio mewn bwyd o'r rhewgell - ac ambell asgwrn hyd yn oed i gŵn ein cymydog yn y pentref hyd yn oed.

'Roedden ni'n teithio rhyw bum milltir yr awr.'

Erbyn hanner awr wedi saith y bore, roedden ni'n gyrru ar hyd Pobedy Avenue, a oedd yn hollol wag bron ac yna mae'n troi yn Briffordd Zhytomyr - y brif ffordd i Lviv a Gwlad Pwyl.

Ffoniodd fy ngwraig, Elizabeth, ei ffrind droeon. Doedd hi'n methu penderfynu a oedd hi am ddod gyda ni ai peidio. Yn y diwedd, dywedodd y byddai'n dod, ac fe wnaethon ni ddweud wrthi am gwrdd â ni ar y ffordd allan o'r dref mewn pymtheg munud. Dechreuodd y ffrind banicio. Fyddai hi ddim yn gallu bod yn barod mewn cyn lleied o amser.

Ar yr union adeg honno gwelson ni rhes o geir o'n blaenau, a dechreuodd y traffig arafu. "Mae'n iawn," ddwedson ni wrthi. "Fyddwn ni ddim yno am bum munud ar hugain o leiaf!"

Wrth i ni groesi'r bont dros y ffordd gylchol, fe glywson ni sŵn chwibanu sawl ffrwydrad. Roedd hi'n teimlo fel petai'r sŵn yn dod o bob ochr. Ond o gyfeiriad Gostomel daeth y sŵn, tref deuddeg milltir o Kyiv gyda maes awyr milwrol a oedd wedi dioddef ymosodiadau trwm drwy'r nos.

O'r diwedd, fe welais i nhw. Fe wnes i agor y ffenestr a gweiddi arnyn nhw i ddod i'r car. Fe wnaethon nhw bentyrru i'r sedd gefn, cesys a phopeth. Roedd y car yn llawn erbyn hyn.

Roedden ni'n teithio rhyw bum milltir yr awr. Fe wnaethon ni basio nifer o geir a oedd wedi cael eu gadael, gan gynnwys dau dacsi - roedd yr ymlusgo araf wedi bod yn ormod iddyn nhw. Fe welson ni ambell deulu yn cerdded allan o Kyiv ar hyd ymyl llain y ffordd fawr - y plant mewn esgidiau glaw a siacedi cynnes. Roedd yna grwpiau o ddynion Indiaidd ifanc hefyd - myfyrwyr mae'n debyg, yn cerdded ar hyd ymyl y ffordd. Pa mor hir fyddai'n ei gymryd iddyn nhw gyrraedd Lviv?

Roedd tanciau ar y naill ochr a'r llall i'r briffordd. Prin iawn oedd y ceir a oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall ac roedd rhai gyrwyr, a oedd wedi cael llond bol ar symud mor araf, wedi mynd drosodd ar y lôn arall ac yn gyrru'n gyflym ar hyd honno. Fe welson ni yrwyr yn gwneud hyn yr holl ffordd i Lviv. Fe welson ni hefyd weddillion tolciog ceir a oedd wedi gwrthdaro yn erbyn y cerbydau a oedd yn dod o'r cyfeiriad arall.

Cymerodd hi bedair awr i ni gyrraedd y pentref. Wrth nesáu at y tŷ, fe wnes i deimlo cymaint o ryddhad. Fe aethon ni â'n holl fagiau i'r tŷ, arwain ein ffrindiau i'w hystafell a gwneud paned. Fe wnes i fynd â bag o esgyrn i gŵn fy nghymdogion. Roedden nhw'n falch iawn o'n gweld ni. Pan oeddwn i'n siarad â nhw, ffoniodd ffrind da i mi a gofyn ble'r oeddwn i. Pan ddywedais wrtho, dywedodd na allwn i aros yno. Dywedodd ei bod yn rhaid i mi fynd i orllewin Wcráin.

'Well i ni fynd ymlaen i Lviv.'

Fe wnaeth hyn fi'n nerfus. Roedd ein plant yn Lviv. Roedden nhw wedi mynd yno ar wyliau'r diwrnod cyn y rhyfel. Roedd fy merch wedi hedfan yno o Lundain. Mae Lviv yn un o ddinasoedd harddaf dwyrain Ewrop gyda dwsinau o gaffis, bwytai ac amgueddfeydd. Mae ei chanol canoloesol yn gwbl unigryw.

"Beth am i ni wahodd ein gwesteion i aros yma a gadael bwyd iddyn nhw," meddwn i wrth fy ngwraig. "Well i ni fynd ymlaen i Lviv."

Fe wnaeth ein ffrind wrthod aros yn y pentref. Byddai hi'n dod gyda ni i Lviv.

Ar ôl hynny, roedd yna ddagrau gan ein cymydog Nina a ffarwel digalon iawn gyda'n cymydog Tolik oedd yn welw ac yn ddryslyd.

Ers hynny, rwyf wedi ffonio ein cymdogion yn y pentref droeon. Mae Nina yn dweud ei bod yn gallu clywed y ffrwydradau a'r saethu yn y tŷ hyd yn oed ar ôl cau'r holl ffenestri a drysau.

Roedd y ffordd i Lviv yn llawn dop o geir. Roedd rhai gyrwyr wedi bod ar y ffordd am dridiau. Gallech chi weld hynny yn eu hwynebau llwyd a'r ffordd roedden nhw'n gyrru. O'n blaenau ni, roeddwn i'n gallu gweld llawer o geir gyda phlatiau rhif Donetsk Wcráin. Efallai fod rhain yn ffoaduriaid am yr eilwaith, yn gyntaf ar ôl symud o Donetsk i ddinasoedd eraill yn Wcráin, ac nawr yn gadael am orllewin y wlad, unwaith eto'n ffoi rhag rhyfel.

Ar hyd llain galed y ffordd, roedd ceir ar stop gyda'r gyrwyr a'r teithwyr yn cysgu. Allwn i ddim peidio â sylwi ar ragor o fyfyrwyr Indiaidd wrth y stondin goffi hwyr un min nos pan roedd y tymheredd wedi disgyn i'r rhewbwynt.

Doeddwn i ddim yn gwybod bryd hynny mai myfyriwr o India fyddai un o'r cyntaf i golli eu bywyd yn y rhyfel hwn - cafodd ei ladd wrth i Kharkiv gael ei bombardio. Ond roeddwn i'n teimlo drostyn nhw gymaint yn barod. Roeddwn i wir yn gobeithio y bydden nhw'n llwyddo i adael Wcráin a mynd adref.

Cymerodd y daith tri chant pedwardeg milltir, dwy awr ar hugain.

Fe wnaethon ni gyrraedd Lviv toc wedi wyth y bore a dod o hyd i'r plant, a oedd wedi drysu'n lân ac yn ddigalon. Yn y canol, roedd siop arfau yn dal ar gau, ac roedd ciw o'i blaen, gyda merched ifanc yn sefyll yno gyda'r dynion.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cymorth dyngarol yn cyrraedd dinas Lviv

Roedd yn rhaid i ni nawr anfon ein merch yn ôl i Lundain. Doedd hon ddim yn broblem hawdd ei datrys. Roedd yn rhaid aros pum diwrnod i groesi'r ffin i Wlad Pwyl. Byddai'n rhaid i ni yrru i groesfan arall. Byddai angen help a chyngor arnom. Roedd ein hen ffrindiau yng ngorllewin Wcráin yn hael iawn eu cymorth a'r diwrnod canlynol hedfanodd ein merch adref i Lundain.

Roedd bywyd arall wedi dechrau, bywyd rhyfel, bywyd sy'n gwneud i chi fod eisiau cysylltu â'ch ffrindiau a'ch teulu bob dydd i wneud yn siŵr eu bod yn dal yn fyw, bywyd lle ydych chi'n dod ar draws pobl sy â phroblemau mor enfawr y gallech chi wario eich holl fywyd yn eu datrys, bywyd sy'n eich gwneud yn eithriadol o sensitif i garedigrwydd ac i greulondeb.

Andrey Kurkov

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr awdur Andrey Kurkov yn Kyiv ychydig wythnosau cyn y rhyfel

Pynciau cysylltiedig