Meddygon y dyfodol yn cynnig hyfforddiant CPR i fyfyrwyr
- Cyhoeddwyd
Mae'n debygol y caiff pob myfyriwr ym mhrifysgol fwyaf Cymru gynnig hyfforddiant ar sut i adfywio calon (CPR) dan gynllun unigryw wedi ei gynllunio a'i weithredu gan fyfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd.
Dim ond un ym mhob 20 person yng Nghymru sy'n byw ar ôl cael ataliad ar y galon yn y gymuned - un o'r cyfraddau gwaethaf yn Ewrop.
Ond mae'r myfyrwyr meddygol am wella hyn trwy ddysgu sgiliau achub bywyd i bob un o'u cyd-fyfyrwyr - beth bynnag fo'r cwrs y maen nhw'n astudio.
Y gobaith yn y pendraw yw ymestyn y cynllun i brifysgolion eraill yng Nghymru, fyddai'n golygu y gallai hyd at 130,000 o bobl dderbyn hyfforddiant ar sut i ail ddechrau calon.
Cyfradd 'isel iawn' yng Nghymru
Mae Hannah Beetham, 23, o Aberhonddu yn fyfyrwraig meddygol yn ei phedwaredd flwyddyn ac yn un o'r grŵp sydd yn arwain y cynllun Myfyrwyr yn Achub Bywydau.
"Mae cyfraddau goroesi ataliad y galon yn isel iawn yng Nghymru ac yn siom," meddai.
"Mewn gwledydd fel Norwy er enghraifft lle maen nhw'n dysgu'r sgiliau mewn ysgolion mae'r cyfraddau tua pedair gwaith yn uwch nag yma.
"Felly daeth criw o fyfyrwyr meddygol at ei gilydd... a'r syniad oedd os y' ni'n gallu dysgu CPR i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yna o bosib byddai grŵp o 30,000 o bobl sydd wedyn yn gallu helpu'r cyhoedd os y' nhw'n gweld rhywun yn cwympo wedi cael ataliad ar y galon."
'Gwahaniaeth anferth'
Y cyntaf i gael cynnig yr hyfforddiant yw 228 o fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf yn Ysgol Newyddiaduraeth y Brifysgol.
Ar ôl cwblhau cwrs rhithwir, mae'r myfyrwyr yn cael sesiwn awr wyneb yn wyneb â'r myfyrwyr meddygol am ddim.
"Wy'n credu bod e'n hollbwysig yn enwedig yn y brifysgol," medd Carys Lewis, myfyriwr newyddiaduraeth.
"Ni'n 'neud cwrs sy' ddim yn unrhyw beth meddygol felly mae'n rili bwysig i ni gael y sgiliau yma.
"Mi fydd yn gwneud gwahaniaeth anferth, bydda i'n gallu dweud wrth ffrindiau sydd ddim yn y brifysgol, mam a dad, brawd a chwaer a rhoi y wybodaeth iddyn nhw.
"Hefyd mae'r genhedlaeth yma yn gallu cymryd y sgiliau 'mlaen am weddill eu bywydau nhw."
Y nod nawr yw cynnig yr hyfforddiant i bob myfyriwr newydd ym Mhrifysgol Caerdydd o ddechrau tymor yr hydref a'r gobaith wedyn yw ei ymestyn ar draws Cymru.
Os yw hynny'n digwydd fe allai hyd at 130,000 o unigolion gael cynnig y sgiliau.
"Mae hyn mor gyffrous... achos mae'n gwbl newydd," medd Hannah. "Ni'n gobeithio bydd prifysgolion eraill yn gallu pigo fe lan.
"Mae prifysgolion Met Caerdydd ac Abertawe wedi dangos diddordeb - meddyliwch faint o wahaniaeth alle fe wneud cael cymaint o bobl yn gallu gwneud y sgiliau hollbwysig yma i gadw rhywun yn fyw nes bod yr ambiwlans yn cyrraedd."
Mae Achub Bywyd Cymru - partneriaeth o fudiadau sy'n hybu'r sgiliau - yn cefnogi'r cynllun.
"Mae'r [myfyrwyr] yn haeddu clod enfawr am feddwl am y syniad, heb sôn wedyn am feddwl am sut i fynd â hyn dros Gymru gyfan," medd Glenda Davies o'r mudiad.
"Dwi'n credu bod hwn yn werthfawr tu hwnt i ni fel Cymru. Fe fydd 'na fwy o bobl yn y pendraw yn byw.
"'Da ni fel mudiad am weld pawb yng Nghymru yn cael y sgiliau yma."
Ym Mawrth 2021 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai disgwyl i ysgolion yng Nghymru ddysgu sgiliau achub bywydau a chymorth cyntaf fel rhan o'r cwricwlwm newydd.
Ond mae'n ymddangos mai criw Myfyrwyr yn Achub Bywydau yw'r cyntaf yn y byd lle mae myfyrwyr meddygol wedi bod yn gyfrifol am hyfforddi sgiliau achub bywyd dros brifysgol gyfan.
'Roeddwn i'n raddol troi'n las'
Roedd John Rawlins, sy'n 64 oed ac yn gyn-ddarlithydd chwaraeon, yn iach ac yn ffit tan iddo fynd i'r gampfa yn Rhagfyr 2020.
Fe wnaeth gwblhau sesiwn ar feic ymarfer a chofnodi ei ganlyniadau ar ap ar ei ffôn.
"Yn amlwg doeddwn i ddim yn perfformio'n rhy wael oherwydd wnes i sesiwn 50 munud eithaf caled," meddai.
Ond mae'n rhaid bod rhywbeth wedi bod yn poeni John - oherwydd er nad yw'n cofio gwneud hynny, fe chwiliodd hefyd ar ei ffôn am symptomau poenau yn y frest (angina).
Ymhen munudau roedd John yn pwyso yn erbyn wal y gampfa yn amlwg mewn trafferth.
"[Aelod arall o'r gampfa] wnaeth sylwi arna i yn pwyso yn erbyn y ffenestr," meddai.
"I ddechrau roedd e'n credu fy mod i'n ymlacio ond yn gyflym sylwodd mod i'n raddol troi'n las! Fe gafodd e help gan aelod arall o'r gampfa a gwnaethon nhw ddechrau rhoi CPR.
"Fe wnaethon nhw godi'r larwm ac fe wnaeth yr aelod o staff ddod gyda'r defib."
Fe wnaeth yr ymdrechion i achub bywyd John bara am dros 20 munud nes i'r criw ambiwlans gyrraedd.
"Fe ddeffrais i tua pum wythnos yn ddiweddarach yn uned gofal dwys yr Ysbyty Athrofaol. Roeddwn i wedi bod mewn coma am dros fis."
Am bob munud sy'n mynd heibio heb CPR, yr amcangyfrif yw bod y siawns o oroesi yn gostwng 10%.
Er bod John wedi cael rhywfaint o ddifrod i'w galon, niwmonia a sepsis yn ystod ei gyfnod yn yr ysbyty, mae bellach wedi gwella ac yn ôl yn y gampfa.
Mae'n dweud fod ei ddyled yn aruthrol i'r rheiny wnaeth ymateb mor gyflym i achub ei fywyd ac mae'n credu fod y prosiect Myfyrwyr yn Achub Bywydau yn hollbwysig.
"Rwy'n credu ei fod yn hanfodol bwysig. Mae'n un o'r sgiliau bywyd hynny nad ydych byth yn gwybod pryd y bydd yn ddefnyddiol.
"Po fwyaf o bobl sy'n gallu ei wneud (CPR), y mwyaf o bobl sy'n hyderus, y mwyaf yw'r siawns y bydd pobl yn byw, a goroesi gyda chanlyniadau da.
"Yn bersonol rwy'n hynod ddiolchgar."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2019