Ymosodiad ci: Cyhuddo dau wedi marwolaeth bachgen 10 oed
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson wedi'u cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth bachgen 10 oed a fu farw ar ôl i gi ymosod arno yng Nghaerffili.
Bu farw Jack Lis yn dilyn yr ymosodiad ym Mhentwyn, Penyrheol ar 8 Tachwedd y llynedd.
Mae dynes 28 oed a dyn 19 oed wedi'u cyhuddo o fod yng ngofal ci oedd yn beryglus allan o reolaeth, gan achosi anaf yn arwain at farwolaeth.
Cafodd y ddau, sydd o ardal Caerffili, eu rhyddhau ar fechnïaeth. Byddan nhw'n ymddangos o flaen Llys Ynadon Casnewydd ar 7 Ebrill.
Mae'r dyn hefyd wedi'i gyhuddo o dri trosedd arall o fod yng ngofal ci oedd yn beryglus allan o reolaeth ac achosi anaf, a dau gyhuddiad tebyg heb achosi anaf, rhwng 4-7 Tachwedd 2021.
Cadarnhaodd yr heddlu fod dyn arall o ardal Aberpennar, sydd bellach yn 35 oed, wedi'i gwestiynu'n wirfoddol ond ei fod wedi'i ryddhau yn ddiweddarach.
Cafodd dau ddyn 18 oed o ardal Caerffili hefyd eu rhyddhau yn ddi-gyhuddiad ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o fod yng ngofal ci oedd yn beryglus allan o reolaeth, gan achosi anaf yn arwain at farwolaeth.
'Nid yw'r ymchwiliad ar ben'
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro, Mark Hobrough, ei bod hi'n bwysig na ddylai fod unrhyw adrodd, sylwebaeth na rhannu gwybodaeth ar-lein a allai niweidio'r achos.
"Nid yw'r datblygiad hwn ychwaith yn golygu bod ein hymchwiliad wedi dod i ben; mae'n dal i fod yn weithredol, a byddwn yn siarad ag unrhyw berson arall o ddiddordeb wrth i'n hymchwiliadau i'r mater hwn barhau," dywedodd.
"Ers i ni ddechrau'r ymchwiliad hwn ym mis Tachwedd, mae diddordeb sylweddol wedi bod ynglŷn â hyn yn ein cymunedau.
"Mae'n hanfodol bod pobl yn parhau i feddwl sut y gallai eu sylwadau neu bostiadau cyfryngau cymdeithasol effeithio ar ymchwiliad sy'n mynd rhagddo, a theulu galarus Jack.
"Unwaith eto, mae fy nghydymdeimlad a'm meddyliau gyda theulu Jack, ffrindiau, ffrindiau ysgol a phawb sy'n cael eu heffeithio gan hyn yn y gymuned."