Mynnu ymddiheuriad am sylwadau Elin Jones ar lyfr cefnogi Wcráin
- Cyhoeddwyd
Mae Llywydd y Senedd, Elin Jones, wedi'i hannog i ystyried ymddiheuro i aelod Ceidwadol am ffrae dros agor llyfr cefnogaeth i Wcráin.
Mae cadeirydd y grŵp o ASau Ceidwadol yn y Senedd, Laura Anne Jones, wedi ysgrifennu at Elin Jones gan ddweud ei bod "hi'n amlwg wedi'i chynhyrfu gan sylwadau aelod oedd heb, yn fy nhyb i, wneud dim o'i le".
Mae Elin Jones wedi gwrthod â gwneud sylw ond mewn llythyr at y grŵp Ceidwadol dywedodd ei bod yn "cytuno i anghytuno" gyda'r AS.
Beth ddigwyddodd ddydd Mawrth?
Yn y siambr ddydd Mawrth fe ofynnodd Janet Finch-Saunders i un o weinidogion Llywodraeth Cymru a fyddai'n bosib cael llyfr lle byddai modd i "staff, aelodau a gweinidogion" ddatgan eu cefnogaeth i Wcráin.
Dywedodd Ms Finch-Saunders bod swyddfa'r Llywydd wedi awgrymu mewn e-bost ei bod hi'n gefnogol i'r syniad.
Ond fe wnaeth y Llywydd ymateb gan ddweud: "Ry'ch chi'n rhoi geiriau yn fy ngheg i yn fanna.
"Fy ymateb i chi oedd y byddwn yn dymuno i ni fel Senedd feddwl am ein gweithredoedd yn hytrach na'n geiriau, a fy mod i'n ymchwilio a yw hi'n bosib i ni sefydlu man casglu arian i gefnogi y rhai sy'n dioddef yn Wcráin."
Pan ofynnodd Ms Saunders a fyddai llyfr yn cael ei ganiatáu, atebodd Elin Jones gan ddweud: "Dwi wedi dweud gweithredoedd ac nid geiriau a bydd, fe fydd yna fan casglu.
"Rwy'n flin iawn iawn Janet eich bod wedi dewis codi'r mater yma mewn ffordd gwbl anaddas ar hyn o bryd."
'Pryder am yr hyn a ddigwyddodd'
Yn ei llythyr at Elin Jones, dywed Laura Anne Jones bod aelodau o sawl plaid yn y Senedd wedi "mynegi pryder am yr hyn a ddigwyddodd".
Mae hefyd yn nodi ei fod wedi digwydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod gan ddweud: "Fel menyw mewn bywyd cyhoeddus, mae'n bwysig ein bod yn parchu ein gilydd."
Ar ddiwedd y llythyr dywed: "Rwy'n gobeithio y gwnewch adlewyrchu ar y cyfnewid [geiriau] ac ystyried a ddylid ymddiheuro i Janet."
Mae'r Llywydd wedi gwrthod â gwneud sylw ar y ffrae ond mewn llythyr yn ymateb i Laura Ann Jones dywedodd: "Fe wnes i gyfarfod â Janet yn y prynhawn ac fe gytunon ni i anghytuno ar yr hyn y gallai arwyddo llyfr ei wneud i gefnogi'r rhai sy'n cael eu bomio ac yn ffoi o Wcráin".
Yn ei hymateb dywed Elin Jones o ganlyniad i'r cyfarfod ei bod hi wedi penderfynu neilltuo lle yn y Senedd "i hybu sut y gellid codi arian drwy gronfa DEC i roi cymorth dyngarol i bobl Wcráin".
Ychwanegodd: "Mae gen i barch mawr i Janet ac nid wyf yn amau ei chymhelliad i chwilio am gymorth. Yn syml ry'n ni'n anghytuno."
'Hynod siomedig'
Wrth wneud sylw ar ei phenderfyniad i ysgrifennu'r llythyr dywedodd Laura Anne Jones: "Mae'r digwyddiadau barbaraidd yn Wcráin wedi cyffwrdd â phobl ar draws Cymru a'r byd.
"Mae hi ond yn iawn fod cynrychiolwyr sydd wedi'u hethol yn ddemocrataidd yn chwilio am ffyrdd i ddangos cefnogaeth i bobl Wcráin.
"Doedd y cyfnewid [geiriau] rhwng y Llywydd a Janet ddim yn adlewyrchu aeddfedrwydd ein democratiaeth."
Dywedodd Janet Finch Saunders ei bod yn "hynod siomedig nad yw'n bosib i ni gael llyfr mynegi cefnogaeth".
"Rwy'n credu y byddai wedi bod yn braf ei arwyddo fel Aelod o Senedd Cymru ac y byddai staff yn cael cyfle i wneud hynny hefyd," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022