Drakeford: 'Ni ddylai ffoaduriaid Wcráin fod angen fisa'

  • Cyhoeddwyd
Przemysl, Gwlad PwylFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros ddwy filiwn o bobl wedi ffoi o Wcráin ers i Rwsia ddechrau ei hymosodiad

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud na ddylai ffoaduriaid o Wcráin fod angen fisas i ddod i'r DU.

Dywedodd ar BBC Radio Cymru fore Gwener fod Llywodraeth Cymru yn dadlau nad oes angen fisas: "Dyw e ddim yn digwydd [yn yr] Undeb Ewropeaidd."

Yn siarad ar drothwy cynhadledd wanwyn Llafur Cymru yn Llandudno, dywedodd Mr Drakeford fod angen i Lywodraeth y DU "wneud mwy" i bobl sy'n ffoi o Wcráin.

Hyd yma mae'r DU wedi derbyn tua 1,000 o ffoaduriaid o Wcráin.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael ei beirniadu am y "biwrocratiaeth" sy'n wynebu'r rheiny sy'n ffoi rhag yr ymosodiad gan Rwsia, ond mae wedi wfftio galwadau i gael gwared ar fisas oherwydd rhesymau diogelwch.

Yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd mae ffoaduriaid o Wcráin yn cael mynediad am hyd at dair blynedd heb fod angen fisa.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Drakeford nad oes angen defnyddio system fisa "mewn cyd-destun rhyfel"

Dywedodd Mr Drakeford fod angen ei gwneud yn haws i bobl ddod i'r DU "heb fynd drwy broses fiwrocrataidd sydd dal yna".

Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw eisoes am dynnu'r cyfrifoldeb am brosesu ceisiadau fisa gan bobl o Wcráin oddi ar y Swyddfa Gartref.

"Ni eisiau croesawu pobl i Gymru sy'n wynebu be' sy'n digwydd yn Wcráin a pherswadio Llywodraeth DU i wneud mwy i helpu pobl ddod yma," meddai fore Gwener.

"Ni ddim yn gweld ei bod yn angenrheidiol cael system fisa. Dyw e ddim yn digwydd [yn yr] Undeb Ewropeaidd.

"Ni'n deall bod angen bod yn ofalus ond ni'n gallu bod yn ofalus ar ôl iddyn nhw gyrraedd, dim ei wneud cynt mewn cyd-destun rhyfel."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford said he hopes Wales will become a "nation of sanctuary"

Ychwanegodd fod "bwlch amlwg" rhwng yr hyn mae gweinidogion Llywodraeth y DU yn ei ddweud a'r hyn sy'n "digwydd ar lawr gwlad".

Dywedodd Mr Drakeford y bydd gweinidogion Cymru yn trafod y sefyllfa o ran ffoaduriaid gyda gweinidogion y DU yn ddiweddarach ddydd Gwener.

"Ry'n ni'n defnyddio pob cyfle fel hyn i geisio perswadio gweinidogion y DU i wneud mwy a'i gwneud hi'n haws i bobl sy'n ffoi rhag y golygfeydd ofnadwy ry'n ni'n eu gweld yn Wcráin gael lloches yn y Deyrnas Unedig ac yma yng Nghymru," meddai.

Nifer yn cynnig llety

Ychwanegodd y Prif Weinidog fod pobl yn cysylltu gydag ef yn ddyddiol yn cynnig darparu llety i ffoaduriaid.

"Dwi'n cael llythyron bob dydd gan bobl yng Nghymru sydd eisiau rhoi lle i bobl sy'n mynd i ddod yma," meddai.

"Fe fydd rhaid i ni weld a fydd mwy o bobl, ond bob dydd dwi'n clywed gan bobl sydd eisiau gwneud hyn yn barod."

Mae Prif Weinidog y DU, Boris Johnson wedi amddiffyn ymateb ei lywodraeth i'r argyfwng, gan ychwanegu fod cynllun ar waith er mwyn galluogi i bobl gymryd ffoaduriaid i mewn i'w cartrefi.

"Mae pobl eisiau i ni fod yn hael, ond hefyd gofalus," meddai.

Bydd modd hefyd i Wcrainiaid sydd â phasbort wneud cais ar-lein am fisa i'r DU o ddydd Mawrth ymlaen.