Drakeford: Tynnwch gyfrifoldeb fisas oddi ar y Swyddfa Gartref
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw am dynnu'r cyfrifoldeb am brosesu ceisiadau fisa gan bobl o Wcráin oddi ar y Swyddfa Gartref.
Mae Llywodraeth y DU wedi bod dan bwysau sylweddol, gan gynnwys gan rai ASau Ceidwadol, i gyflymu a symleiddio'r broses.
Wrth siarad ag ASau ar y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan, dywedodd Mark Drakeford: "Mae rhoi hyn yn nwylo'r Swyddfa Gartref yn beth hollol anghywir i'w wneud."
Yn y dyddiau diwethaf mae mam a merch wnaeth yrru 1,500 o filltiroedd i ffoi Wcráin wedi eu gwrthod rhag teithio i Gymru ym mhorthladd Calais.
Daw wrth i'r Ceidwadwyr Cymreig alw ar gyd-aelodau yn Llywodraeth y DU i wneud mwy i helpu ffoaduriaid hefyd.
Yn siarad gydag ASau, dywedodd Mr Drakeford: "Mae'r Swyddfa Gartref gyda'i hanes hir o gyfundrefnau gelyniaethus tuag at bobl sy'n dod o fannau eraill yn y byd... dylid cymryd y cyfrifoldeb oddi ar adran sydd wedi dangos ei bod yn analluog i ysgogi a bodloni'r ymateb hwnnw.
"Dylid ei roi yn nwylo grŵp ymroddedig o bobl ar lefel y DU a fydd yn gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol i ganiatáu i'r bobl hynny, sy'n cael eu gyrru o'u cartrefi eu hunain, gael noddfa yn y Deyrnas Unedig - dros dro mewn llawer o achosion.
"[Byddai hyn] yn gwneud yn siŵr bod gweithredoedd ein llywodraeth yn cyd-fynd â dymuniadau ein pobl."
Canmolodd Mr Drakeford hefyd haelioni "eithriadol" pobl Cymru a'r DU gyfan.
Galwodd am i wiriadau diogelwch gael eu cynnal ar ffoaduriaid o'r Wcráin unwaith iddyn nhw gyrraedd y DU yn hytrach na chyn hynny.
Dwy sydd wedi ffoi o Wcráin ond wedi methu a dod at ffrindiau yng Nghymru ydy Alena Semenova, 22, a Tetyana Tsybanyuk, 40, o Kyiv.
Ond ar ôl i'r fam a merch yrru 1,500 o filltiroedd o ffin Wcráin i borthladd Calais, fe wnaeth swyddogion o'r DU wrthod caniatâd iddynt fynd ar y fferi.
Roedd y ddwy yn mynd at rieni bedydd Alena, Graham ac Alla Blackledge ym mhentref Clas-ar-wy, ger Aberhonddu.
Dywedodd Ms Semenova: "Oherwydd yr oedi hir, mae fy mam yn crio drwy'r amser ac yn dweud ei bod ofn marw ac yna yn poeni beth fydd yn digwydd i fi. Rwy'n trio fy ngorau i'w cysuro."
'Trin fel troseddwyr'
Mae'r ddwy yn Calais ers dechrau Mawrth, yn gorfod cysgu yn eu car, a bodloni ar ddau bryd o uwd bod diwrnod.
"Doedden ddim yn deall beth oedd yn digwydd, pam ein bod yn cael ein trin fel troseddwyr", meddai.
"Fe wnaethom ddweud ein bod wedi teithio bron i 2,500 cilomedr oherwydd bod yna ryfel yn ein gwlad a bod yr unig bobl o fewn Ewrop gyfan oedd yn agos i ni, fod nhw'n byw yng Nghymru ac yn aros amdanom ni.
"Fe wnaeth y swyddog ddim byd heblaw ysgwyd ei ysgwyddau a dweud na fyddai'n gadael ni fynd trwodd heb fisa."
Yn y cyfamser, mae'r Ceidwadwyr Cymreig am weld Llywodraeth y DU yn mynd "ymhellach ac yn gyflymach" i helpu ffoaduriaid o Wcráin.
Dywedodd Samuel Kurtz AS bod ymateb Llywodraeth y DU wedi bod yn "siomedig".
Hyd yn hyn mae tua 760 o fisas wedi'u rhoi i bobl o Wcráin sy'n ceisio ymuno â theulu yn y DU.
Mae 22,000 o geisiadau wedi'u gwneud hyd yn hyn.
Bu'r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnal dadl yn Senedd Cymru brynhawn Mercher, gan fynegi "undod â phobl Wcráin".
Yn y ddadl, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, ei fod yn "falch iawn" o gymorth dyngarol y DU "ond yr hyn nad ydw i'n falch ohono yw'r golygfeydd rydyn ni wedi'u gweld gyda'r ffoaduriaid a'r sefyllfa yn Calais. Gallwn ni wneud mwy, mae'n rhaid i ni wneud mwy."
Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, ei bod yn "foesol anghynaladwy" i'r DU barhau i fewnforio olew o Rwsia tan ddiwedd y flwyddyn.
"Mae angen dim llai nag embargo ynni llawn arnom ar unwaith," meddai.
"Fe fydd yn boenus, rydyn ni'n deall hynny ond mae'n dechnegol ac yn economaidd bosibl."
Wrth ymateb i'r ddadl, mae Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU "i weithredu ar frys i gyflwyno proses fisa gyflym i sicrhau dulliau syml, cyflym, diogel a chyfreithlon o gyrraedd noddfa yn y DU; dileu'r gofyniad i Wcraniaid ddarparu tystiolaeth fiometrig cyn gadael Wcráin; a rhoi rhagor o fanylion am y cynlluniau adsefydlu a'r cyllid dilynol y bydd ei angen i gefnogi'r ymdrechion adsefydlu."
Wrth siarad ar BBC Radio Wales, dywedodd Mr Kurtz: "Yn bersonol hoffwn i a chydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig weld Llywodraeth y DU yn mynd ymhellach ac yn gyflymach o ran cefnogaeth i ffoaduriaid sydd am ddod i'r Deyrnas Unedig".
Dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro ei fod yn newyddion positif bod nifer y fisas sydd wedi'u cadarnhau wedi cynyddu, ond dywedodd fod "llawer o ffordd i fynd eto".
Ddydd Mercher dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ceidwadol y DU, Grant Shapps, fod 760 o fisas wedi'u rhoi hyd yma i bobl o'r Wcráin sy'n ceisio ymuno â theulu yn y DU, i fyny o'r 300 a adroddwyd ddydd Mawrth.
Dywedodd Mr Shapps fod gan y llywodraeth bellach "lawer mwy" o slotiau cais am fisa ar gael - gyda 6,000 bellach ar gael y dydd - a bod y llywodraeth wedi "ehangu nifer y lleoliadau prosesu yn aruthrol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2022