Tlws yr FA: Notts County 1-2 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth y Dreigiau deithio i Notts County ar gyfer gêm tlws yr FA yn hyderus wedi iddyn nhw ennill pum gêm yn olynol.

Er mor bwysig yw llwyddiant mewn gêm gwpan, dyrchafiad yw nod amlycaf y tîm eleni.

Daeth gôl i Notts County ar ôl hanner awr a hynny gan yr amddiffynnwr Rawlinson gyda pheniad grymus. Ond ddwy funud cyn hanner amser roedd Wrecsam yn gyfartal wedi hanner foli gan Dan Jarvis.

Roedd hi'n gêm agos tan y funud olaf.

Gydag 89 munud ar y cloc fe gyfunodd Hall-Johnson a James Jones yn grefftus ac fe blannodd Jones y bêl yn y rhwyd gan roi'r Dreigiau ar y blaen.

Mae buddugoliaeth nos Wener yn golygu bod Wrecsam wedi cyrraedd gemau cyn-derfynol Tlws yr FA.