Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 9-13 Ffrainc
- Cyhoeddwyd
Colli wnaeth tîm rygbi Cymru nos Wener a hynny yn erbyn Ffrainc - yr unig wlad sydd wedi ennill pob gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad hyd yma.
Dechreuodd Ffrainc y gêm yn hyderus ac ar ôl tair munud roedd cic gosb Melvyn Jaminet wedi rhoi'r Ffrancwyr dri phwynt ar y blaen ond ymhen dwy funud yr oedd troed Dan Bigger wedi dod â'r sgôr yn gyfartal.
Roedd Ffrainc yn ennill y gêm gicio yn yr ugain munud cyntaf.
Wedi 10 munud, cais cynta'r gêm a hynny wedi i Anthony Jelonch, y blaen asgellwr, groesi'n rhwydd ac fe ychwanegodd Jaminet y ddau bwynt.
Ond doedd y cochion ddim yn ildio - ymhen saith munud roedd yna gic gosb arall i Dan Biggar wedi chwarae da gan Alex Cuthbert a Taulupe Faletau a 39 munud i mewn i'r gêm roedd yna drydedd gic gosb i Biggar.
Pan ddaeth y chwiban hanner amser dim ond un pwynt o wahaniaeth oedd rhwng y ddau dîm - Cymru 9, Ffrainc 10.
Cic gosb i Melfyn Jaminet a hawliodd bwyntiau'r ail hanner i'r Ffrancwyr.
Wrth i'r gêm fynd yn ei blaen roedd tîm Cymru yn chwalu hyder Ffrainc ac roedd ambell gamgymeriad gan yr ymwelwyr. Ond er hynny roedd gweld o ble y deuai sgôr i Gymru yn anodd. Daeth Jonathan Davies yn agos ond fe gollodd ei afael ar y bêl a chollwyd y cyfle.
Doedd dim sgôr bellach ac felly y Ffrancwyr oedd yn fuddugol o bedwar pwynt (9-13).
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022