Ydy cerdded i'r ysgol yn iachach na mynd yn y car?
- Cyhoeddwyd
"Rydych chi'n meddwl eich bod chi'n gwneud y peth iawn wrth gerdded i'r ysgol, ond efallai y byddai'n fwy iach cyrraedd mewn car," meddai Alice Macintosh wrth iddi gerdded gyda'i mab ar hyd ffordd brysur yng ngogledd Caerdydd.
Mae Alice a nifer o rieni lleol eraill wedi bod yn ymgyrchu ers misoedd i gael dyfeisiau monitro ansawdd aer wedi eu gosod ger holl ysgolion y brifddinas.
Ond yn ôl Cyngor Caerdydd, mae data'n awgrymu efallai na fyddai hynny'n gwneud "y defnydd gorau" o adnoddau.
Yn y cyfamser mae 'na alwadau o'r newydd ar i Lywodraeth Cymru gyflwyno Mesur Aer Glân.
Dywed gweinidogion eu bod wedi ymrwymo o hyd i basio deddfwriaeth i wella ansawdd aer cyn diwedd tymor y Senedd yn 2026.
Mae mab Alice, Ollie, yn mynychu Ysgol Gynradd Coryton, dafliad carreg o'r gyfnewidfa lle mae'r M4 yn cwrdd â'r A470.
"Rydyn ni eisiau cael monitorau awyr amser-real fel ein bod ni'n gallu gweld beth yw'r broblem, os oes problem, ac yna gallwch chi ddechrau meddwl pa fesurau lliniaru sydd eu hangen," meddai Alice wrth raglen Politics Wales.
Mae deiseb yn galw am osod monitorau ansawdd aer amser-real y tu allan i bob un o 127 o ysgolion y ddinas yn cyfeirio at farwolaeth Ella Adoo-Kissi-Debrah.
Y plentyn naw oed o dde-ddwyrain Llundain oedd y person cyntaf yn y DU i gael llygredd aer wedi ei nodi ar ei thystysgrif marwolaeth, yn dilyn dyfarniad cwest yn 2020.
Dywedodd Cyngor Caerdydd fod dyfeisiau monitro eisoes wedi eu gosod ger Ysgol Gynradd Coryton fel amod o'r gwaith sy'n gysylltiedig ag adeiladu canolfan ganser newydd yn yr ardal.
Dywedodd llefarydd y byddai'r monitorau yn casglu data am gyfnod o 15 mis, ond roedd yna gydnabyddiaeth na fyddai'r wybodaeth ar gael i'r cyhoedd.
Ychwanegodd fod y cyngor wedi monitro lefelau nitrogen deuocsid o'r blaen y tu allan i naw o ysgolion y ddinas dros gyfnod o ddwy flynedd a chanfod "nad oedd crynodiadau NO2 uwch y tu allan i'r un o'r ysgolion".
O ganlyniad, mae'r cyngor yn credu efallai nad gosod dyfeisiau amser-real y tu allan i bob ysgol fyddai'r "defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael".
"Mae'r cyngor yn cydnabod nad oes lefel ddiogel o lygredd aer o ran iechyd y cyhoedd ac fel rhan o'i ymrwymiad i wella ansawdd aer yng Nghaerdydd mae nifer o gamau i leihau llygredd aer eisoes wedi'u cyflwyno ac mae llawer mwy o gynlluniau'n cael eu hystyried," ychwanegodd y llefarydd.
Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu galwadau o'r newydd i gyflwyno Mesur Aer Glân.
Cyhoeddodd gweinidogion Bapur Gwyn yn amlinellu cynlluniau i fynd i'r afael â llygredd aer ym mis Ionawr 2021 ond ni chafodd Mesur Aer Glân ei gynnwys yn rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth ar gyfer blwyddyn gyntaf tymor newydd y Senedd.
Dywedodd cadeirydd Awyr Iach Cymru Joseph Carter: "Mae'n rhwystredig bod rhywbeth mor bwysig â delio â llygredd aer wedi cymryd gyhyd.
"Rydyn ni'n dal i glywed negeseuon positif gan wleidyddion ond mae angen gweithredu ac mae angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu hyn."
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd Lee Waters bod pasio'r ddeddfwriaeth yn nhymor y Senedd yma yn "flaenoriaeth".
"Rydyn ni'n gweithio ar fanylion y ddeddfwriaeth, sy'n araf ac yn gymhleth, ond nid dyna'r cyfan rydyn ni'n ei wneud," ychwanegodd.
BBC Politics Wales, BBC One Wales am 10:15 fore Sul ac yna ar iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2019