Sut i arbed arian wrth i gostau byw gynyddu

  • Cyhoeddwyd
Gwion DafyddFfynhonnell y llun, Gwion Dafydd

Wrth i gostau byw gynyddu mae mwy o bobl yn cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd ac felly mae negodi a ffeindio'r fargen orau yn bwysicach fyth.

Fel rhan o gyfres costau byw ar Cymru Fyw, dyma Gwion Dafydd, neu @GwionCardi ar Twitter, yn rhannu peth o'i gyngor arbed arian.

Mae Gwion yn ymddiddori mewn cyllid personol a'n defnyddio ei sgiliau i helpu pobl i negodi costau biliau. Mae'n byw yn Nhalgarreg, Ceredigion gyda'i wraig Elin a'u merch fach Martha.

Ffonau symudol

Os chi'n talu dros £10 y mis, chi'n talu gormod. Yn dibynnu ar faint o ddata chi'n defnyddio, gallwch gael cytundeb sy' ond tua £6 y mis. Ewch ar-lein i weld ble mae'r ddêl orau ac wedyn ffoniwch eich cwmni presennol i fygwth gadael gan nodi'r ddêl gorau i chi weld. Mwy na thebyg 'newn nhw gynnig dêl tipyn gwell i chi.

Nwy a thrydan

Yn amlwg mae prisiau wedi codi'n sylweddol yn ddiweddar ac maen nhw'n debyg o godi eto yn y flwyddyn nesaf. Nid oes unrhyw gytundebau tâl penodol (fixedprice deals) synhwyrol ar gael felly mae'n debygol mai aros gyda'ch cwmni presennol sydd orau am nawr. Ond cadwch lygad ar y newyddion a'r gwefannau cymharu fel eich bod yn barod i symud cyflenwr pan ddaw'r cyfle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Arian yn ôl

Mae sawl gwefan cashback ar gael, megis Quidco, TopCashback a Boom 25, sy'n rhoi peth arian yn ôl i chi am siopa'n arferol. Felly os yn prynu rhywbeth ar y we, o bot o jam i grys newydd i wyliau tramor, gwiriwch a yw'r wefan chi am ddefnyddio wedi ei restru ar y wefan cashback. Wedyn caiff eich pryniant ei dracio a gewch chi beth arian yn ôl am wneud bron dim yn wahanol!

Gwerthu nwyddau

Os oes pethau gyda chi yn y tŷ sy' ddim eu hangen mwyach, neu hyd yn oed anrhegion heb eu hagor, beth am eu gwerthu ar-lein? Mae gwefannau ocsiwn fel arfer yn codi tâl comisiwn ond ewch i Gumtree neu Facebook Marketplace a does dim cost, a gallant werthu tipyn cynt hefyd. Byddwch yn wyliadwrus wrth gwrs, yn enwedig os yw rhywun yn eich holi i dalu am gludiant i rywle, gan fod achosion felly wedi codi fwyfwy yn ddiweddar.

Inc

Gyda mwy ohonom yn gweithio o adref, mae mwy yn defnyddio argraffwyr cartref a gall inc fod yn ddrud iawn. Ond fel arfer nid oes rhaid defnyddio inc swyddogol yn eich argraffydd. Ewch i chwilio am inc sy'n cyd-fynd gyda'ch argaffydd, ac er falle daw rhybudd i fyny pan yn ei roi mewn y tro cyntaf, ni fydd yn effeithio ar safon yr argaffu o gwbl.

Symud banc

Os chi'n gwneud tipyn o fancio ar-lein efallai nad yw'n bwysig i chi gael banc yn lleol, ac wrth gwrs mewn rhai ardaloedd yng Nghymru nid oes un ar gael beth bynnag. Felly beth am newid banc? Mae nifer yn talu dros £100 i chi am wneud. Mae'n cymryd tua wythnos fel arfer i hyn ddigwydd a bydd angen gwirio'r telerau, ond arian am ddim yw hwn yn y bôn.

Ffynhonnell y llun, PA

Persawr

Mae'n gallu bod yn ddrud iawn yn siopau'r stryd fawr i brynu unrhyw bersawr i ddynion neu menywod. Os ewch chi i wefan ocsiwn, serch hynny, gallwch arbed tipyn! Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd am rhywbeth newydd sbon wrth gwrs, a chofiwch wirio adborth y gwerthwr. Ac mae'n bosib hefyd cael poteli tipyn mwy o faint, neith bara tipyn hirach.

Gwyliau tramor

Falle eich bod yn meddwl mynd ar wyliau tramor eleni am y tro cyntaf ers sbel fach. Y mwyaf hyblyg yw'ch dyddiadau, gorau gyd. Yn wir, mae'n rhatach hedfan ar ddyddiau penodol o'r wythnos, ac mae'n amrywio o faes awyr i faes awyr. Felly cofiwch wneud eich ymchwil cyn bwcio'r tocyn terfynol yna!

Mae Cymru Fyw eisiau clywed sut mae'r cynnydd mewn prisiau a chostau byw wedi effeithio arnoch chi.

Ydych chi wedi gorfod addasu y ffordd yr ydych chi'n siopa, gymdeithasu neu agwedd arall o'ch bywyd?

Rhannwch eich profiadau gyda ni ac fe fyddwn yn cyhoeddi detholiad o'r straeon ar Cymru Fyw. E-bostiwch: cymrufyw@bbc.co.uk

Pynciau cysylltiedig