Cwmni Theatr Maldwyn yn atgyfodi sioe Y Mab Darogan

  • Cyhoeddwyd
Ymarfer
Disgrifiad o’r llun,

Daeth aelodau hen a newydd at ei gilydd i ddechrau ymarfer yng Nglantwymyn nos Fawrth

Dros 40 mlynedd ers ei pherfformio gyntaf yn 1981, mae'r ymarferiadau wedi dechrau yng Nghwmni Theatr Maldwyn i berfformio Y Mab Darogan unwaith eto.

Y Mab Darogan oedd sioe gyntaf, ac o bosib un o rai enwoca' Cwmni Theatr Maldwyn, gafodd ei pherfformio gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth.

Yng Nglantwymyn nos Fawrth daeth aelodau hen a newydd at ei gilydd i ddechrau ymarfer.

Penri Roberts oedd yn chwarae rhan Owain Glyndŵr yn y sioe wreiddiol, ac roedd yn un o sylfaenwyr y Cwmni gyda Linda Gittins a'r diweddar Derec Williams.

Ffynhonnell y llun, Cwmni Theatr Maldwyn
Disgrifiad o’r llun,

Penri Roberts yn chware rhan Owain Glyndŵr yn y sioe wreiddiol

"Mae'n rhaid i rywun gofio mai'r Mab Darogan oedd y sioe gyntaf i Derec, Linda a fi sgwennu efo'n gilydd, ac i wneud hynny ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth yn 1981 oedd hynny," meddai Mr Roberts.

"Doedd yr un ohonom ni'n tri wedi gwneud dim byd tebyg o'r blaen, ac roedd o'n rhywbeth hollol newydd i ni.

"Fe gafon ni dipyn o sioc faint o waith oedd o, ond hefyd falle'n fwy, synnu yr ymateb gafwyd i'r sioe yn y pafiliwn ym Machynlleth yn ystod mis Awst.

"Ar ben hynny mi aethom ni ar daith hir i bob rhan o Gymru, ac roedd yr ymateb yn anhygoel.

"Doedden ni ddim yn disgwyl hynny yn sicr, ond dyna oedd cychwyn y daith i ni fel triawd."

Disgrifiad o’r llun,

Penri Roberts oedd un o sylfaenwyr Theatr Maldwyn

Pam atgyfodi'r sioe felly, dros 40 mlynedd wedi iddi gael ei pherfformio gyntaf?

"Y llynedd yn 2021 roedden ni yn dathlu 40 mlynedd o fodolaeth y cwmni, ac roedd Linda a fi yn awyddus i gael nodi y garreg filltir honno," meddai Mr Roberts.

"Dros y blynyddoedd roedd y tri ohonom wedi meddwl rhyw ddiwrnod, falle 'nawn ni greu cynhyrchiad newydd o'r Mab Darogan, felly roedden ni'n meddwl bod o'n amserol i wneud hynny rŵan.

"Creu o'r newydd y cynhyrchiad o'r Mab Darogan - yr un caneuon ac yn y blaen, ond bod ni'n mynd i greu cynhyrchiad newydd ar gyfer cast newydd."

Ffynhonnell y llun, Cwmni Theatr Maldwyn
Disgrifiad o’r llun,

Y Mab Darogan - sioe am Owain Glyndŵr - oedd sioe gyntaf Cwmni Theatr Maldwyn

Un sy'n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o'r cynhyrchiad ydy Catrin Aur, 17 oed o Fachynlleth.

Yn yr ymarfer dywedodd ei bod hi'n edrych ymlaen at gael cymryd rhan mewn sioe mor eiconig â'r Mab Darogan.

"Dwi'n edrych ymlaen yn arw i ddweud y gwir. Ar ôl Covid a cholli'r amser 'ma i gyd, mae'n dda bod pethau'n cychwyn yn ôl eto.

"O'n i'n aelod o'r ysgol [Theatr Maldwyn] yn flaenorol. Gan bod hwnnw heb gychwyn yn ôl dwi'n edrych ymlaen i gael canu eto."

Disgrifiad o’r llun,

"Ar ôl Covid a cholli'r amser 'ma i gyd, mae'n dda bod pethau'n cychwyn yn ôl eto," medd Catrin Aur

Cafwyd £10,000 o nawdd gan y Loteri Genedlaethol tuag at y costau i lwyfannu'r Mab Darogan.

Dywedodd Ruth Bates, pennaeth cyfathrebu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Rydyn ni'n gwybod pa mor werthfawr yw gwaith Cwmni Theatr Maldwyn yn rhoi cyfleoedd theatrig i drigolion y canolbarth, gan gyfrannu at gadw'r iaith Gymraeg a'r diwylliant yn fyw yn sgil hynny.

"Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi mwy na £30m bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU ac mae wyth o bob 10 o'n grantiau yn £10,000 neu lai, ac yn mynd i grwpiau ac elusennau fel Cwmni Theatr Maldwyn.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld sioe Y Mab Darogan ar ei newydd wedd wrth iddi deithio o amgylch theatrau Cymru yn yr hydref."