Cyhoeddi carfan Chwe Gwlad merched Cymru

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru yn gobeithio ennill eu gêm gyntaf ers 2019 yn y Chwe Gwlad eleni

Mae'r prif hyfforddwr Ioan Cunningham wedi cynnwys chwe chwaraewr sydd eto i ennill cap yng ngharfan merched Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad eleni.

Siwan Lillicrap yw capten y garfan o 37 o chwaraewyr, ond mae hi yn hunan-ynysu ar hyn o bryd wedi iddi gael prawf positif am Covid-19.

Mae Sioned Harries, sydd wedi ennill 58 o gapiau, hefyd wedi'i chynnwys, ac fe allai chwarae yn y Chwe Gwlad am y tro cyntaf ers 2018.

Y chwaraewyr allai ennill eu capiau cyntaf yn y bencampwriaeth eleni ydy Lowri Norkett, Liliana Podpadec, Jenni Scoble, Emma Hennessy, Emma Swords a Sisilia Tuipulotu.

Bydd Cymru'n herio Iwerddon yn Nulyn ar 26 Mawrth, cyn herio'r gweddill yn yr un drefn ac y gwnaeth tîm y dynion.

Dyma fydd y bencampwriaeth gyntaf i Gymru ers i 12 o chwaraewyr gael cytundebau proffesiynol gydag Undeb Rygbi Cymru.

Y garfan yn llawn

Blaenwyr: Siwan Lillicrap (c, Bryste), Alisha Butchers (Bryste), Alex Callender (Caerwrangon), Gwen Crabb (Gloucester-Hartpury), Cara Hope (Gloucester-Hartpury), Kat Evans (Saracens), Abbie Fleming (Caerwysg), Cerys Hale (Gloucester-Hartpury), Sioned Harries (Caerwrangon), Natalia John (Bryste), Manon Johnes (Bryste), Kelsey Jones (Gloucester-Hartpury), Bethan Lewis (Gloucester-Hartpury), Liliana Podpadec (Gogledd Llandaf), Carys Phillips (Caerwrangon), Gwenllian Pyrs (Sale), Donna Rose (Saracens), Jenni Scoble (Gogledd Llandaf), Caryl Thomas (Caerwrangon), Sisilia Tuipulotu (Gloucester-Hartpury).

Olwyr: Keira Bevan (Bryste), Lleucu George (Gloucester-Hartpury), Emma Hennessy (Cheltenham), Hannah Jones (Gloucester-Hartpury), Jasmine Joyce (Bryste), Courtney Keight (Bryste), Kerin Lake (Gloucester-Hartpury), Caitlin Lewis (Caerwysg), Ffion Lewis (Caerwrangon), Lisa Neumann (Gloucester-Hartpury), Lowri Norkett (Pontyclun), Kayleigh Powell (Bryste), Gemma Rowland (Wasps), Emma Swords (Harlequins), Elinor Snowsill (Bryste), Niamh Terry (Caerwysg), Robyn Wilkins (Gloucester-Hartpury).