Y Gynghrair Genedlaethol: Bromley 0-0 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Hayes LaneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n ganlyniad siomedig i Wrecsam yn Hayes Lane brynhawn Sadwrn

Bu'n rhaid i Wrecsam fodloni ar bwynt wrth golli tir yn y ras am y bencampwriaeth.

Mae'r canlyniad di-sgôr yn golygu fod y Dreigiau bellach 11 pwynt tu ôl i Stockport ar y brig.

Methodd Wrecsam a chreu llawer o gyfleon safonol yn erbyn tîm cartref penderfynol, er ennill eu saith gêm ddiwethaf.

Peniodd Aaron Hayden a Max Cleworth dros y trawst i Wrecsam, gyda Ollie Palmer hefyd yn methu a tharo'r nod.

Ond daeth cyfleon i Bromley hefyd gyda Rob Lainton - wnaeth orfod gadael y maes yn ddiweddarach oherwydd anaf - yn gwneud arbediad da yn dilyn ergyd Luke Coulson.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn aros yn y pedwerydd safle.