Beicio yn 'beryg bywyd' o amgylch Llyn Tegid

  • Cyhoeddwyd
Y criw ar eu beiciau

Mae yna alwad am gael llwybr beicio pwrpasol o amgylch Llyn Tegid ger Y Bala.

Mae beicwyr yn dweud bod hi'n gallu bod yn "beryg bywyd" wrth deithio o amgylch llyn naturiol mwyaf Cymru.

Ar hyn o bryd, mae 'na lwybr beicio a cherdded pwrpasol yn rhedeg am rhyw dair milltir o gyfeiriad Y Bala ar ochr ffordd yr A494 i gyfeiriad Llanuwchllyn.

Ond mae galw am ymestyn y llwybr o amgylch y llyn hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llwybr yn gyfleuster arbennig i Mel Williams i gael mwynhau'r awyr iach

Mae'r llwybr yn boblogaidd gyda ymwelwyr a phobl sy'n byw yn yr ardal, ac i un o rheiny sy'n ei ddefnyddio'n aml mae'r llwybr yn adnodd pwysig iawn.

Mae gan Mel Williams salwch prin a drwy fynd ar ei beic arbennig mae hi'n cael cyfle i fwynhau'r awyr iach.

'Mae gen i salwch o'r enwhypophosphatasia sy'n golygu bod gen i asgwrn meddal, problemau efo'r cyhyrau ac ati... mobility ydy'r broblem fawr.

"Mae'n braf gallu bod allan yn yr haul eto, mynd allan efo ffrindiau… gwneud pethe mae pawb arall yn ei wneud… hollol wych," dywedodd.

"Mae'r llwybr beicio yn gwneud i ti deimlo'n saffach wrth gwrs. Ar y ffordd fawr dwi yn amlwg ond 'di pobl ddim yn disgwyl gweld rhywbeth fel hyn so mae'n brafiach reidio ar y ffyrdd beicio."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid mynd ar y ffordd fawr trwy bentref Llanuwchllyn

Ond, ar ôl tair milltir, mae'r llwybr beicio yn dod i ben.

Wedyn mae'n rhaid mynd ar y ffordd fawr i gyfeiriad Llanuwchllyn am rhyw hanner milltir - sy'n cynnwys mynd o amgylch cornel sy'n cael ei adnabod yn lleol fel cornel Wern Goch - cornel sy'n adnabyddus am fod yn beryglus.

Ar ôl Gwersyll Glan-llyn, mae 'na lwybr beicio yr holl ffordd i Lanuwchllyn.

Ond, i fynd o amgylch y llyn yn ôl i'r Bala drwy Llangywer mae'n rhaid teithio ar hyd ffordd fach wledig - ffordd sydd yn gallu bod yn arbennig o brysur a pheryglus yn ystod tymor y gwyliau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ffyrdd gwledig yn gallu bod yn beryglus yn ôl y criw

Yr ateb yn ôl rhai ydy cael llwybr pwrpasol o amgylch Llyn Tegid.

Mae Mel Williams ac Aled Williams o Glwb Beicio Y Bala am weld llwybr o'r fath yn cael ei greu.

Dywedodd Aled bod y ffyrdd yn beryglus iawn y llynedd oherwydd yr holl ymwelwyr oedd yn yr ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffyrdd lawer mwy prysur yn yr haf - ac felly'n fwy peryglus - yn ôl beiciwr arall, Aled Williams

Dywedodd: "Yn enwedig yn yr haf mae na dwristiaeth o gwmpas - yn enwedig haf dwetha.

"Falle bod pobl yn aros yn y wlad yma achos Covid. Roedd hi i weld yn beryg iawn ar y ffyrdd yn enwedig ar y ffordd gefn rownd cefn y llyn.

"Roedd y traffig reit drwm a falle 'di ceir ddim yn cymryd sylw falle o feicwyr a ma' nhw yn trio pasio cyn gynted â phosib a mae'n gallu bod yn reit beryg yn de.

"Se cael llwybr rownd y llyn y berffaith rili".

'Barod i drafod cynlluniau'

Mewn ymateb, fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd y bydd yn "ymgynghori yn fuan ar gynlluniau teithio llesol ar draws y sir" a hynny'n cynnwys ardal Y Bala.

"Byddem yn barod iawn i drafod unrhyw gynlluniau posib allai wella mynediad i'r cyhoedd yn gyffredinol at deithio llesol.

"Rydym yn ymwybodol fod yna lecynnau poblogaidd i gerddwyr a beicwyr yn yr ardal yma, er mae'n bwysig nodi nad oes yna lwybrau cyhoeddus mae'r Cyngor yn gyfrifol amdanynt ger y llyn."

Pynciau cysylltiedig