Chwe Gwlad 2022: Cymru yn croesawu'r Eidalwyr yn y gêm olaf
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru yn herio'r Eidal yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn gyda dim ond balchder yn wobr i'r enillydd yn dilyn ymgyrchoedd siomedig.
I fod yn deg, mae perfformiadau Cymru wedi gwella wrth i'r gystadleuaeth fynd yn ei blaen.
Cafwyd perfformiad llawer gwell gan Gymru - sy'n bumed - yn y golled yn erbyn Ffrainc.
Fe all Cymru orffen yn drydydd gyda buddugoliaeth pwynt bonws ac os bydd canlyniadau eraill yn mynd o'u plaid.
Mae'r Eidal - a fydd unwaith eto yn gorffen ar waelod y tabl - yn chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn y Chwe Gwlad ers 2015 i ddod â rhediad truenus o 36 colled yn y gystadleuaeth i ben.
Mae Cymru wedi curo'r Eidal ym mhob un o'r 16 cyfarfod diwethaf.
Y clo Alun Wyn Jones fydd y chwaraewr cyntaf i gyrraedd 150 o gapiau dros un wlad, a'r capten Dan Biggar fydd y seithfed chwaraewr o Gymru i gyrraedd 100 o gapiau.
Dyma fydd y tro cyntaf i Jones chwarae ers anafu ei ysgwydd yn erbyn Seland Newydd yng ngemau'r hydref.
Mae Alun Wyn Jones wedi ei dweud ei bod hi'n "anrhydedd ac yn fraint" wrth iddo baratoi i ennill ei 150fed cap i Gymru a chreu hanes yn y gamp.
"Mae bod y cyntaf i wneud unrhyw beth yn anrhydedd ac yn fraint," meddai Jones.
"Ond dwi'n meddwl bod gwneud hynny dros Gymru a thynnu'r crys yma ymlaen gymaint o weithiau... yn enwedig pan fyddwch chi'n sylweddoli beth mae rygbi yn ei olygu i'r genedl.
"Rydw i wedi bod i ffwrdd o'r camp ac allan o'r crys ers rhy hir, ond mae dod yn ôl i weld y gwaith caled mae'r bechgyn wedi ei wneud wedi bod yn bleserus iawn."
Tîm Cymru i wynebu'r Eidal - dydd Sadwrn, 19 Mawrth am 14:15
Johnny McNicholl (Scarlets); Louis Rees-Zammit (Caerloyw), Owen Watkin (Gweilch), Uilisi Halaholo (Caerdydd), Josh Adams (Caerdydd); Dan Biggar (Northampton Saints, capten), Gareth Davies (Scarlets); Gareth Thomas (Gweilch), Dewi Lake (Gweilch), Dillon Lewis (Caerdydd), Adam Beard (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch), Seb Davies (Caerdydd), Josh Navidi (Caerdydd), Taulupe Faletau (Caerfaddon).
Eilyddion: Bradley Roberts (Ulster), Wyn Jones (Scarlets), Leon Brown (Dreigiau), Will Rowlands (Dreigiau), Ross Moriarty (Dreigiau), Kieran Hardy (Scarlets), Callum Sheedy (Bryste), Nick Tompkins (Saracens).
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2022