Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4

  • Cyhoeddwyd
HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dyn o Gaerdydd wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 nos Lun.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i lôn ddwyreiniol y draffordd rhwng cyffyrdd 35 (Cyfnewidfa Pencoed) a 34 (Meisgyn) oddeutu 21:20.

Dywedodd Heddlu De Cymru mai car Audi A3 du oedd yn y gwrthdrawiad.

Ychwanegodd: "Cafodd gyrrwr yr Audi, dyn 41 oed o Lanishen, ei gadarnhau'n farw yn y fan a'r lle."

Bu'n rhaid cau'r draffordd rhwng y ddau gyffordd yn gyfan gwbl am rai oriau dros nos ac roedd yna gyngor i yrwyr osgoi'r ardal.

Mae'r heddlu wedi diolch i bawb gafodd eu heffeithio gan dagfeydd fore Mawrth wrth iddyn nhw ymchwilio i'r digwyddiad.

Mae'r llu'n apelio am luniau a gwybodaeth gan unrhyw un allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad.

Pynciau cysylltiedig