Castell Newydd Emlyn: Sut mae Covid wedi gadael ei farc?
- Cyhoeddwyd
Nos Lun 23 Mawrth, 2020 - dyddiad wnaeth arwain at newidiadau mawr yng Nghymru a thu hwnt, wrth i'n bywydau ddod i stop.
Roedd yn rhaid i deuluoedd, busnesau, a chymunedau addasu wrth i'r cyfnod clo cyntaf gael ei gyflwyno yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig.
Fe drodd tair wythnos yn ddwy flynedd - dwy flynedd o dynhau a llacio cyfyngiadau.
Ond dwy flynedd yn ddiweddarach, wedi sawl cyfnod clo gwahanol, dim ond nawr mae sôn am y posibilrwydd fod yr holl gyfyngiadau ar fin cael eu llacio.
Fe gafodd y cyfyngiadau effaith ar bob cymuned ledled Cymru, gan gynnwys ardal Castell Newydd Emlyn.
Roedd cyfradd yr achosion yn yr ardal yn gymharol isel yn ystod y pandemig.
O ran y 410 o gymunedau yng Nghymru - ardal Trelech oedd rhif 400 o ran y gyfradd i gael eu heffeithio, ac ardal Beulah a Chenarth yn 403.
Er hyn fe adawodd y pandemig ei farc ar y cymunedau yma ar lannau Afon Teifi.
Cleifion ein cartrefi gofal oedd ymhlith y rhai wnaeth ddioddef waethaf.
Doedd cartref gofal Glyn Nest yn y dre' ddim yn eithriad i hynny, gyda phwysau'r pandemig yn cael effaith ar staff a phreswylwyr.
"O'dd e'n amser pryderus achos o'n ni'n meddwl ar un pryd y byddai'n rhaid i'r deiliaid fynd o 'ma. Ond fe neithon ni gadw'r cwbl," medd Dr Carol Williams o'r cartref.
Fe lwyddodd Glyn Nest i gadw Covid y tu fas i furiau'r cartref i ddechrau. Ond ym mis Rhagfyr 2020 fe newidiodd hynny.
Fe welodd yr ardal o amgylch Castell Newydd Emlyn 27 o farwolaethau Covid yn ystod y ddwy don gyntaf - ac fe gafodd Glyn Nest ei heffeithio'n galed.
"Fe gollon ni sawl un, hanner dwsin i ddeg. Roedd pawb yn ddiflas, ond fe gadwodd pawb i fynd gyda help y cyngor sir ac agencies."
"Er bod y cyfyngiadau'n llacio, does fawr wedi newid yn ein cartrefi gofal. I nifer mae rheolau ar gadw pellter cymdeithasol dal mewn grym, ac mae'n rhaid gwisgo mwgwd o fewn y cartref.
"Mae lot wedi cael eu bwrw gyda'r haint hyn - y gweithwyr, y deiliaid. Mae problemau'n para."
Gyda sawl un yn gorfod cysgodi rhag Covid fe aeth rhai cymunedau ati i helpu eu cymdogion.
Y pethau bychain sy'n golygu cymaint.
Yn ôl Beca Jenkins o Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsiân roedd hi'n gyfle i roi 'nôl i'w cymuned.
"Yn enwedig i'r henoed a'r bregus yn yr ardal oedd falle ddim yn teimlo'n gysurus i fynd i lefydd fel siopau a fferyllfeydd, o'dd e'n bwysig iawn i ni fel pobl ifanc o'dd gyda ceir yng nghefn gwlad, bod ni'n gallu cynnig iddyn nhw.
"Buon ni'n neud pethau fel siopa bwyd, pigo lan presgripsiwn."
Codi arian
Ond aeth y clwb gam ymhellach hefyd, i helpu'r rheiny oedd eisoes yn dost gyda Covid.
"Erbyn mis Ebrill 2020, o'n ni'n gweld bod tipyn o bobl lleol erbyn 'ny yn defnyddio unedau gofal dwys yn ysbytai Glangwili a Bronglais", medd Gwenyth Richards.
"Felly gan fod popeth wedi stopio bryd 'ny eithon ni ati i godi arian. Cynnal her cerdded, seiclo, nofio, rhwyfo, pwsho pram, beth bynnag, o Bontsiân i Baris a 'nôl [yn rhithiol] a neithon ni godi yn agos at £8,000."
Fe gafodd y pandemig effaith ar nifer o fusnesau yng Nghastell Newydd Emlyn, boed yn gaffi neu yn siop ddillad fel Ededa J ar y brif stryd. Daeth masnachu i stop dros nos.
"O'n i just ffaelu credu fe a meddwl 'ni'n mynd i fod ar gau," meddai Ffion Thomas o'r siop.
"Ar y dechrau o'n ni'n meddwl tua tair wythnos fydde fe.
"Ond pan ddaeth hi mas bod ni'n mynd i fod ar gau yn hirach dyna pryd ddechreuodd pethau mynd bach yn serious wedyn.
"Ni'n archebu'r dillad tua blwyddyn o flaen llaw. Yr holl stoc 'na, ma' fe'n cyrraedd a ni dal yn gorfod talu amdano fe a ddim yn gwybod os bydde ni'n gallu gwerthu fe a cael yr arian 'nôl."
'Ni wedi addasu'
Roedd yn rhaid addasu a meddwl tu fas i'r bocs. Gydag ychydig o ddychymyg fe ddaeth y siop drwy'r pandemig.
"O'dd gyda ni llond siop o stoc. Rhoio ni fwy o sylw i Facebook ac Instagram a phethau.
"O'dd hwnna wedi gweithio'n eitha 'da. Ni yn neud mwy o ddefnydd o fewn nawr.
"O'n ni yn defnyddio fe cyn 'ny, ond fi'n credu ni wedi addasu nawr, ni'n neud lot o waith ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae e yn helpu lot.
"Mae e'n neis i bobl allu gweld be sydd 'da ni, pobl sy'n byw bach yn bellach bant.
"Ma'n neis iddyn nhw cal pip bach cyn neud y siwrne lawr wedyn."
Ymhellach lan y brif stryd a ni'n cyrraedd ffenest swyddfa arwerthwyr Dai Lewis.
Dyma fusnes sydd wedi gweld ochr arall y pandemig.
Mae'r galw am dai yng nghefn gwlad wedi codi'n aruthrol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a hynny yn effeithio ar brisiau.
'Prysur ofnadwy'
"O'dd hi yn mynd yn fwy anodd rhoi pris ar rhywbeth bob tro roedd dyn yn mynd allan i weld tŷ achos roedd y farchnad yn newid mor gyflym trwy'r amser," meddai Geraint James, rheolwr y swyddfa yng Nghastell Newydd Emlyn.
"Dwi wedi bod wrthi ers 30 mlynedd a ni 'di gweld cyfnodau prysur a chyfnodau tawel iawn.
"Ond dwi'n credu bod hwn o fod yn brysur ofnadwy o ran y diddordeb o'dd pobl yn dangos, yn enwedig mewn tyddynod, gwedwch rhywbeth lan at 10 erw, s'dim digon o rheiny i ateb yr alwad o hyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2022