Datblygiadau Covid dwy flynedd ers y cyfnod clo cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Menyw yn cerdded heibio siop gyda'r arwydd 'cadwch 2m ar wahân'Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe fydd 'na sawl digwyddiad yr wythnos hon i nodi dwy flynedd ers dechrau'r cyfnod clo cyntaf a chofio am effaith aruthrol y pandemig ar fywydau.

Mewn cyfnod sydd wedi bod mor boenus 'ma 'na ddatblygiadau positif wedi digwydd, yn enwedig ym maes ymchwil meddygol.

Gan ddechrau gyda brechlynnau ein gohebydd iechyd Owain Clarke sy'n edrych ar sut mae pobl Cymru wedi cyfrannu at yr ymdrech i ddeall ac ymateb i Covid-19.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Fe gafodd brechlynnau newydd, sy'n hanesyddol yn cymryd blynyddoedd i'w datblygu, eu cyflwyno lai na blwyddyn ar ôl dechrau'r pandemig ac mae triniaethau newydd yn cael eu darganfod o hyd.

Ac mae trigolion Cymru, ynghyd â'r gwasanaeth iechyd yma, wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r ymdrechion hyn.

Ers mis Mawrth 2020 mae o leiaf 61,724 o unigolion o Gymru wedi cymryd rhan mewn 102 o astudiaethau Covid.

Yn ôl Dr Dylan Jones o Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor fe allai'r "datblygiadau gwyrthiol" sydd wedi digwydd yn ystod y cyfnod elwa cymdeithas am ddegawdau i ddod.

Disgrifiad o’r llun,

Elfed Williams: "Roeddwn ni am helpu mewn unrhyw ffordd"

Ddechrau'r llynedd fe wnaeth Elfed Williams, 59, sy'n byw yn Llanrhaeadr ger Rhuthun wirfoddoli i gymryd rhan mewn treial clinigol yn edrych ar effeithiau brechlyn Covid newydd.

"Ges i e-bost yn chwilio am bobl i gymryd rhan... a meddwl mae'n bwysig bod pobl yn cynnig eu hunan," meddai.

Ar ôl cwblhau'r gwaith papur fe gafodd ei wahodd am apwyntiad yng nghanolfan ymchwil meddygol y gogledd ger Ysbyty Maelor Wrecsam.

"Roedd rhai pobl yn cael brechlyn Covid ac eraill yn cael brechlyn oedd eisoes yn cael ei ddefnyddio ar gyfer meningitis.

"Ond doeddech chi ddim yn gwybod pa un oeddech chi'n ei gael. Roeddwn ni'n rhoi gwaed a llenwi dyddiadur i egluro beth oedd yn digwydd i mi."

'Helpu eraill'

Roedd Elfed, sy'n gweithio i elusen iechyd meddwl, yn awyddus i gymryd rhan er mwyn ceisio cyflymu diwedd yr argyfwng.

"Dyna holl bwrpas y treial yw i helpu eraill," meddai. "Mae'r Covid 'ma wedi effeithio ar gymaint o bobl drwy'r byd.

"Ac roeddwn ni am helpu mewn unrhyw ffordd bach er mwyn ceisio dod â hyn i gyd i ben yn gynt nag yn hwyrach."

Flwyddyn wedi'r treial hwnnw mae'r ganolfan yn Wrecsam yn dal i astudio brechlynnau newydd.

Roedd gwirfoddolwyr yn cyrraedd bob chwarter awr i gael sgwrs â meddyg ac i roi gwaed ar y bore y gwnes i ymweld, a phob un ohonynt wedi cael pigiad yn ystod yr wythnos ddiwethaf allai fod wedi cynnwys brechlyn wedi addasu ar gyfer Omicron.

Maen nhw'n cael eu monitro fel rhan o astudiaeth COVBOOST, allai ddylanwadu ar bwy fydd yn gymwys i dderbyn brechiad atgyfnerthu arall yn yr hydref, yn ogystal â pha frechlyn i'w gynnig a pha ddos i'w roi.

Disgrifiad o’r llun,

Arwel Lloyd: 'Ymchwil yn elwa pawb yn y pen draw'

Mae Arwel Lloyd, nyrs ymchwil arbenigol sy'n gweithio i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn un o'r rhai sy'n arwain y prosiectau.

"Yn ystod y cyfnod yma un peth sydd wedi dod yn amlwg yw bod mwy o bobl yn y boblogaeth yn gwybod am yr ymchwil sy'n mynd 'mlaen yng Nghymru," meddai.

"Hefyd mae'r broses o ddechrau ac agor treialon newydd yn llawer cyflymach nag ar ddechrau'r pandemig."

Ac er bod Arwel yn cydnabod fod peth ymchwil i gyflyrau eraill wedi cael ei ohirio er mwyn blaenoriaethu ymchwil Covid, mae'n hyderus y bydd yr arbenigedd sydd wedi'i ddatblygu yn elwa pawb yn y pen draw.

"Mae'r system i gyflymu ymchwil yma i aros. Ac mae'r ffaith fod y boblogaeth a staff yn fwy ymwybodol o ymchwil nawr yn golygu y byddan nhw yn fwy bodlon i gymryd rhan yn y dyfodol."

Ynghyd ag ymchwil brechlynnau mae pobl o Gymru hefyd wedi cyfrannu at sawl astudiaeth sy'n ceisio dod o hyd i gyffuriau newydd i drin Covid.

Un o'r rhain yw astudiaeth PANORAMIC sy'n edrych ar ba mor effeithiol yw tabledi gwrthfirol sy'n cael eu cymryd adref.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyffuriau eu datblygu ar gyfer Covid a'u defnyddio mewn meysydd eraill

Dangosodd treial arall o'r enw REMAP-CAP, gyda 366 o bobol o Gymru wedi cymryd rhan hyd yma, y gallai dau gyffur sy'n draddodiadol yn cael eu defnyddio ar gyfer crud y cymalau ostwng risg marwolaeth o 10%.

Mae 1,500 o bobl o Gymru hyd yma wedi cymryd rhan yn yr ymchwil o'r enw RECOVERY, sydd wedi dangos y gallai cyffur steroid rhad (dexamethasone) leihau marwolaethau o draean mewn pobl sy'n cael trafferthion anadlu difrifol.

Cloriannu'r dystiolaeth orau

"Mae'r afiechydon sydd wedi cael eu hachosi gan firysau yn hanesyddol yn anodd iawn i'w trin," medd Dr Dylan Jones, Darlithydd yn Adran Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor.

"Ond yn y cyfnod yma ma' 'na gyffuriau newydd wedi cael eu datblygu yn ogystal â hen feddyginiaethau, fel steroids, wedi cael eu trosglwyddo i ddiben gwahanol.!

O ran y brechlynnau, a thechnoleg mRNA er enghraifft, fe fydd modd ailddatblygu hwnna i bob math o afiechydon.

"Ma' 'na sôn am gancr a chlefydau eraill... fe allai hynny newid y byd dros y degawd nesaf 'ma."

Ond gyda chymaint o brosiectau ymchwil yn digwydd dros y byd i gyd, mae 'na ddyletswydd hefyd i gloriannu'r data a'r dystiolaeth orau.

A'r llynedd fe gafodd grŵp arbenigol o'r enw Canolfan Dystiolaeth Covid-19 Cymru ei sefydlu i wneud hynny.

Un enghraifft o'i gwaith oedd cloriannu'r dystiolaeth fod brechiadau Covid yn ddiogel i fenywod beichiog, fel sail i ymgyrch gyhoeddusrwydd ar gyfer mamau, bydwragedd a meddygon teulu.

Ac yn ôl Dr Dylan Jones mae'r ymdrech honno yn bwysicach nawr nag erioed o ystyried dylanwad gwefannau cymdeithasol.

"Ma' na gymaint o newyddion ffug wedi bod am effaith y brechlynnau yma ar fabis... felly mae cael negeseuon clir gan gorff arbenigol sydd ag awdurdod yn help mawr.

"Ma' na ddyletswydd ar wyddonwyr, meddygon a phawb i fod yn barod i esbonio a sgwrsio am wyddoniaeth a'r ffeithiau.

"Oherwydd pan does dim llais awdurdodol yna i mewn i'r gwagle yna mae straeon ffug yn dod."