Airbus: Bygwth gweithredu diwydiannol pellach dros gyflogau

  • Cyhoeddwyd
Awyrennau A320, A330, A350 ac A380 cwmni Airbus yn hedfan gyda'i gilyddFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Mae adenydd holl awyrennau masnachol Airbus yn cael eu gwneud yng Nghymru

Mae dros 3,000 o weithwyr Airbus yn bygwth gweithredu diwydiannol ar ôl gwrthod codiad cyflog diweddaraf y cwmni.

Ym mis Chwefror pleidleisiodd gweithwyr yn ffatri Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint, dros weithredu, wedi i gyflogau gael eu rhewi yno yn 2020.

Bellach mae gweithlu'r ffatri, sy'n gwneud adenydd i awyrennau masnachol, yn bwriadu dwysáu'r gweithredu diwydiannol.

Dywed Airbus ei bod yn "hynod siomedig" gweld y cynnig diweddaraf yn cael ei wrthod.

Undeb yn cefnogi'r gweithwyr

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb Unite, Sharon Graham: "Mae gweithwyr Airbus wedi cyfrannu elw iach i'r cwmni a dylai hynny gael ei wobrwyo gyda chodiad cyflog sylweddol.

"Fe fydd Unite yn cefnogi'r gweithwyr gyda'i holl adnoddau yn ystod y gweithredu diwydiannol."

Dywedodd cydlynydd rhanbarthol yr undeb, Tony Brady: "Mae'n haelodau yn Airbus wedi mynegi eu hunain a rŵan mae'n bryd i Airbus wrando."

Byddai "gweithredu diwydiannol cynyddol" yn dechrau o 7 Ebrill, oni bai bod y cwmni'n "ailfeddwl a gwella ar eu cynnig blaenorol", meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Airbus: "Rydym yn hynod siomedig bod ein cynnig diweddaraf, gwell, wedi cael ei wrthod.

"Mae'r cwmni'n dal i ddod dros effaith y pandemig, ac rydym eto i ddeall yn fanwl beth fydd effaith sancsiynau'r Undeb Ewropeaidd ar Rwsia, oherwydd y sefyllfa sydd ohoni yn Wcráin."

Roedd eu cynnig yn un "hynod gystadleuol" medd y cwmni.

"Mae Airbus wastad wedi dymuno osgoi gweithredu diwydiannol niweidiol a byddwn yn trafod y camau nesaf gyda'r undeb," meddai.

Pynciau cysylltiedig