Her gyfreithiol i filiau Ardal Gwella Busnes Caerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Caerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 50 o fusnesau Caerfyrddin yn gwrthod talu am nad ydyn nhw eisiau bod yn rhan o'r fenter

Mae dros 50 o fusnesau Caerfyrddin wedi cyflwyno her gyfreithiol ar ôl derbyn biliau i ariannu corff newydd maen nhw'n dweud nad ydyn nhw am ei gefnogi.

Maen nhw'n galw am gael gwared ar Ardal Gwella Busnes Caerfyrddin.

Fe sefydlwyd y corff yn 2020 gyda'r bwriad o gynyddu elw yn y dref, gwella proffil Caerfyrddin, gwella'r profiad parcio a lleihau nifer yr adeiladau gwag.

Yn ôl Cyngor Sir Caerfyrddin, fe wnaeth 130 o fusnesau gymryd rhan yn y bleidlais i sefydlu'r Ardal Gwella Busnes.

Codi £165,000 y flwyddyn

Mae hi'n ofynnol i fusnesau lleol dalu canran o'i gwerth trethiannol tuag at gronfa ariannol arbennig, sy'n cael ei defnyddio i ariannu mentrau i wella canol y dref.

Roedd disgwyl i Ardal Gwella Busnes Caerfyrddin godi £165,000 yn flynyddol.

Serch hynny, roedd nifer o fusnesau yn anhapus iawn ar ôl derbyn biliau i ariannu'r corff newydd pan oedden nhw wedi gorfod cau am dri mis oherwydd y pandemig.

Roedd eraill yn dweud nad oedden nhw'n ymwybodol o bwrpas y taliadau.

'Dim pleidlais yn y lle cyntaf'

Cafodd dros 50 o fusnesau eu cynrychioli yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Llun gan y cyfreithiwr o Gaerfyrddin, Rhodri Griffiths.

Fe gyflwynodd gais ffurfiol i Lywodraeth Cymru ddiddymu'r bleidlais wreiddiol dros sefydlu'r Ardal Gwella Busnes.

Cytunodd y llys i ohirio 36 achos am dri mis. Fe ohiriwyd unrhyw orchmynion i gasglu'r ffioedd ar gyfer yr Ardal Gwella Busnes am dri mis hefyd.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dros 50 o fusnesau eu cynrychioli yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Llun

Mewn datganiad, dywedodd Mr Griffiths: "Yn dilyn ein cyflwyniadau i'r llys ac i Lywodraeth Cymru, mae'n glir fod yna broblem sylfaenol gyda chyfeiriadur postio Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Swyddfa Brisio.

"Dim ond 42 o bartïon gafodd gŵys i ymddangos gerbron y llys, er bod yna saith o bartïon eraill heb dalu, ond heb eu henwi.

"Mae ein cleientiaid ni yn dweud na wnaethon nhw dderbyn pleidlais yn y lle cyntaf. Mae'n amlwg fod yna broblemau gyda'r bas-data.

"Dyma'n union pam y dylid diddymu'r bleidlais a sicrhau fod yna broses ddemocrataidd a theg."

Mae Ardal Gwella Busnes Caerfyrddin wedi cael cais i wneud sylw.

Dyw Cyngor Sir Caerfyrddin ddim yn gyfrifol am redeg yr Ardal Gwella Busnes, ond mae'r awdurdod yn casglu'r ffioedd ar ei rhan.

Mewn datganiad, dywedodd y cyngor: "Ein barn ni yw does yna ddim sail gyfreithiol i weithredu yn erbyn y bleidlais i sefydlu'r Ardal Gwella Busnes."