Arestio plentyn a dyn ar amheuaeth o ymosod ar heddwas

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae dyn a phlentyn 13 oed wedi'u harestio ar amheuaeth o ymosod ar weithiwr gwasanaeth brys.

Cafodd yr heddlu eu galw i Benygroes ger Caernarfon am 19:45 nos Fawrth i drin dyn ag anafiadau i'w ben.

Dywed Heddlu'r Gogledd fod grŵp mawr o bobl wedi dod at swyddogion wrth iddyn nhw roi cymorth cyntaf i'r dyn, a'u bod wedi "ymosod yn eiriol ac yn gorfforol" arnyn nhw.

Cafodd dyn 26 oed ei arestio ar amheuaeth o drosedd trefn gyhoeddus ac ymosod ar weithiwr gwasanaeth brys.

Cafodd plentyn 13 oed hefyd ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar weithiwr gwasanaeth brys.

Maen nhw wedi cael eu rhyddhau wrth i'r heddlu wneud ymholiadau pellach.