Dathlu 125 o flynyddoedd ers agor Pier Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae arddangosfa wedi agor ym Mangor er mwyn nodi 125 o flynyddoedd ers agor pier y ddinas.
Yn ymestyn hyd at 1,500 o droedfeddi, Pier Garth ym Mangor ydi'r ail bier hiraf yng Nghymru gydag amryw o siopau a chaffis ar ei hyd.
Wrth siarad yn agoriad swyddogol y pier yn Oriel ac Amgueddfa Storiel fore Sadwrn dywedodd y grŵp cymunedol, Ffrindiau Pier Garth Bangor eu bod yn gobeithio y bydd gwaith diweddaraf i atgyweirio'r strwythur yn sicrhau dyfodol llewyrchus i'r pier.
Mae'r strwythur cofrestredig bellach yn cael ei warchod a'i gynnal gan Gyngor Dinas Bangor, sydd hefyd yn croesawu'r arddangosfa.
Fe gafodd y pier ei ddylunio gan y pensaer J.J Webster ac mae wedi ei greu o ddur a phren.
Ar hyd y pier mae 'na siopau a chaffis mewn adeiladau siâp octagon lliwgar er mwyn denu ymwelwyr a thrigolion i fwynhau'r golygfeydd o Fôn, mynyddoedd Eryri a draw am Landudno.
Er i waith diweddar werth £1m ddiogelu'r strwythur am flynyddoedd i ddod mae'r pier wedi profi cyfnod digon helyntus.
Yn 1971 roedd yna bosibilrwydd o'i ddymchwel oherwydd pryderon diogelwch.
Ond fe'i achubwyd gan Gyngor Dinas Bangor pan gafodd ei brynu am 1c yn 1975 ac fe fu gwaith atgyweirio sylweddol wedi hynny.
Nod yr arddangosfa ydy olrhain hanes y pier a'r straeon personol ynghlwm.
"Pwrpas yr arddangosfa ydi dathlu," meddai Avril Wayte, Cadeirydd Ffrindiau Pier Garth Bangor.
"Gafodd ei adeiladu ym 1896 felly mae na lot o bethau wedi digwydd ers hynny.
"Mae 'na luniau ohono'n cael ei adeiladu ac yn dangos pa mor bwysig ydi'r môr i'r pier."
Mae'r arddangosfa hefyd yn adrodd hanes llong cargo'r Christiana wnaeth daro'r pier ym 1914 gan ei hollti'n hanner.
"Mi oedd 'na fferi hefyd yn rhedeg o ben draw'r pier draw am Fiwmares ac mae'n bwysig dathlu a dangos hynny," meddai Ms Wayte.
Gobaith y gymdeithas y bydd croniclo'r hanes yn sicrhau bod y straeon ar gof a chadw am 125 mlynedd arall.
Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys arteffactau fel llestri, llieiniau a phosteri sy'n adlewyrchu'r newidiadau sylweddol sydd wedi bod.
'Ased enfawr i Fangor'
Ar ddiwrnod braf mae'r pier ddenu dros 500 o ymwelwyr bob dydd.
Alun Davies yw un o'r gwirfoddolwyr sy'n casglu'r 50c gan bob ymwelydd ar y fynedfa.
"Mae o'n ased enfawr i Fangor ond mae'n syndod cyn lleied sy'n gwybod bod o yma," meddai.
"Ond unwaith maen nhw'n deall bod o yma, maen nhw'n dod 'nôl tro ar ôl tro."
Mae gan Alun, fel nifer o drigolion, blac ar y pier - un gydag enw ei wraig arno i'w choffáu wedi ei marwolaeth.
"Mae gan y lle mae lot o atgofion da a nesh i dreulio nifer o oriau hapus yma."
Mae'r arddangosfa, sy'n olrhain ac yn adlewyrchu hanes un o bierau Fictoraidd cofrestredig hynaf Prydain, yn Storiel tan 4 Mehefin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2018