Oes rhai 'jôcs' sy'n mynd rhy bell?
- Cyhoeddwyd
Dros yr wythnos ddiwethaf mae un o gomedïwyr mwyaf poblogaidd ynysoedd Prydain wedi bod dan y chwyddwydr. Yn ei sioe ddiweddara' ar Netflix, His Dark Material, mae Jimmy Carr yn trafod llwyth o wahanol bynciau, ac yn gwneud hwyl ar lawer o wahanol bobl.
Mae un jôc yn trafod beth ddigwyddodd i'r gymuned Sipsi yn ystod yr Holocost, gyda llawer o bobl wedi ymateb yn chwyrn a chondemnio Jimmy Carr, gan gynnwys aelodau o'r gymuned Sipsi sydd o'r farn bod y jôc yn hiliol ac yn annerbyniol.
Ar nos Lun 28 Mawrth mae'r comedïwr yn perfformio yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Mae disgwyl i'r neuadd fod yn llawn, ond mae rhai ffigyrau amlwg fel gwleidyddion Y Senedd wedi galw i'r gig gael ei chanslo, neu i Carr ymatal rhag cynnwys y jôc am y Sipsiwn.
Mae Gary Slaymaker yn gomedïwr profiadol ac yn ffan mawr o gomedi. Yma mae'n rhannu ei farn am gomedi, rhyddid mynegiant a Jimmy Carr.
Wna'i ddim ail-adrodd y jôc gaeth y comedïwr, Jimmy Carr, i fewn i drwbwl yn ddiweddar - yn gynta', dyw hi ddim yn ddoniol; ac yn ail, ma' 'na ddigon o erthyglau arlein sy'n dyfynu'r gag. Felly os ydy chi ishe gwbod beth odd y testun (a'r chyd-destun) allwch chi glatsho bant i ffindio hi ar y we.
Fyddai'n onest; 'wy'm yn ffan o gomedi Jimmy Carr. Creulondeb a bychanu yw steil y boi - yn Saesneg, fydden i'n ei ddisgrifio fe fel insult comic, a rhywun sy'n gwneud ei arian drwy punching down. Pawb at y peth a bo, yn amlwg, ond o ystyried mai pobl eraill sy'n sgrifennu lot o jôcs Jimmy dyddie hyn, ma' 'na rhywbeth braidd yn ffals ynglŷn â boi sy'n ennill bywoliaeth drwy esgus bod yn ddadleuol o filain gyda'i hiwmor.
'Gwneud i fy ngwaed i ferwi'
Ond yn ôl at y linell sydd wedi gwylltio cynifer. Mae wedi'i strwythuro fel jôc, ond bod y payoff yn rhyfeddol o wan, a jyst ddim yn ddoniol. Ond creulondeb hamddenol y diweddglo yna 'nath wneud i'n ngwaed i ferwi.
Mae'n ddiddorol taw hon odd gag ola'i sioe fyw ar Netflix, His Dark Material. Ma'n rhaid bod 'na rhyw fath o amheuaeth bod hon yn mynd rhy bell, os chi'n gorfod gadel hi tan ddiwedd y noson. Nath y jôc ei hunan gymryd rhyw wyth eiliad i'w hadrodd; ond wedyn fe gymerodd Carr rhyw dair/bedair munud wedi hynny i esbonio pam bod hi'n jôc dda, a chyfiawnhau ei chynnwys hi yn y set.
Allen i ddim cytuno gyda fe ei bod hi'n jôc dda, a r'odd y cyfiawnhad 'nath ddilyn tu hwnt o wan... ac ond yn dangos pa mor anghywir o'dd e i gynnwys y peth yn y sioe.
Mae Jimmy ar ei ffordd i Neuadd Dewi Sant cyn bo hir, ac mae'r gwleidyddion Mark Drakeford ac Adam Price wedi lleisio barn ddylai'r sioe cael ei chanslo. Nawr, ma' gyda fi lot o amser ar gyfer Drakeford a Price, ond fydden i'n gweud mai dim lle gwleidydd yw hi i annog penderfyniad fel hyn.
Mae'r Torïaid wedi bod yn trafod cancel culture hen ddigon (heb y syniad lleia' o beth ma'r term yn ei olygu), a 'na gyd mae gwahardd Carr yn ei wneud yw troi e'n rhyw fath o ferthyr comedïol.
'Diwedd y gân yw'r geiniog'
Y ffordd symla, ac mwyaf effeithiol, o hala neges gryf i Jimmy yw i ni, fel dilynwyr comedi, i beidio troi fyny i'r gig. Diwedd y gân yw'r geiniog dyddie hyn, i nifer, a ma' ergyd i'r waled yn debygol o greu fwy o argraff na ergyd i'r cydwybod.
Wrth gwrs, ma' hyn i gyd yn cymryd yn ganiataol bydde bobl yn dewis peidio mynychu noson Jimmy am rhesymau moesol; ond ma' dilynwyr Carr yn deall yn iawn beth yw natur comedi'r dyn, ac wrth eu boddau'n gweld e'n dilorni a gwawdio'r gwana' yn ein plith.
Aeth e'n rhy bell gyda'r jôc ddiwetha 'na? Roedd ymateb ei gynulleidfa ddim cystal ag beth odd e'n ddisgwyl, wy'n siŵr; sydd efallai'n esbonio'r eglurhad, er mwyn cael pawb nôl ar ei ochor e, i orffen y noson.
Nawr, wy'm yn angel pan mae'n dod i wneud comedi ar lwyfan - dros y blynyddoedd, wy 'di neud digon o jôcs bach creulon am Dregaron a Rhyl; ac yn y blynyddoedd diwetha, ma'r Torïaid a'r Saeson wedi bod yn dargedi cyson... ond wedyn, a fydden i'n galw rhain yn leiafrifoedd dan ormes? Fel Carr, alla'i gyfiawnhau'n nefnydd o hiwmor am y ddau griw yma ond 'wy'n amau 'mod i ar dir saffach fan hyn, hefyd.
Y siom fwyaf i fi yn sgil y linell 'ma gan Jimmy Carr yw'r tawelwch llethol sydd wedi bod gan gynifer o enwau mawr comedi ym Mhrydain. Fe fydden i wedi disgwyl i o leia' llond dyrnaid o wynebau cyfarwydd sioeau panel a rhaglenni stand-up ein sianeli i ddatgan barn, un ffordd neu'r llall; ond dim yw dim. Falle bod yr ofn llethol 'ma am cancel culture wedi dofi nhw yn breifat, faint bynnag ma' nhw'n taranu ar lwyfan?
Dros y blynyddoedd 'wy 'di bod yn hoff iawn o ddefnyddio'r linell "ond yw hiwmor yn rhywbeth personol" - yn achos Jimmy Carr, mae wedi mynd yn rhy bersonol o lawer. 'Na ni; welai chi lawr yn Neuadd Dewi Sant te. Na, dim ond jôcan... twll dy dîn di, Jimmy.
Hefyd o ddiddordeb: