Gobeithion Cymru Dan-21 o gyrraedd Euro 2023 drosodd

  • Cyhoeddwyd
Samuel PearsonFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Samuel Pearson (canol) yn dathlu ei gôl, ond doedd y canlyniad ddim yn ddigon

Mae gobeithion Cymru o gyrraedd pencampwriaeth Dan-21 Euro 2023 drosodd wedi iddyn nhw gael gêm gyfartal yn erbyn Bwlgaria yng Nghasnewydd ddydd Mawrth.

Vladimir Nikolov roddodd yr ymwelwyr ar y blaen yn yr ail hanner wedi cyfnod cyntaf di-sgôr.

Daeth Cymru'n gyfartal dri munud yn ddiweddarach gydag ergyd isel Samuel Pearson.

Ond doedd dim mwy o goliau yn yr hanner awr oedd yn weddill ac fe orffennodd hi'n 1-1.

Roedd Cymru eisoes wedi colli pedair gêm yn y grŵp, ac mae'r drydedd gêm gyfartal nawr yn golygu na all Cymru fynd ymlaen i'r rowndiau terfynol.

Roedd eu gobeithion o wneud hynny eisoes yn denau - mae'r Swistir ar frig y grŵp ac eisoes wedi sicrhau eu lle yn y bencampwriaeth, ac mae'r Iseldiroedd nawr ar fin sicrhau'r ail safle.