Rhagbrofol Euro dan-21 2023: Moldofa 1-0 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jack ValeFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Er i Jack Vale ddod yn agos at sgorio, colli wnaeth y Cymry ifanc

Mae gobeithion tîm dan-21 Cymru o gyrraedd Euro 2023 yn dila wedi iddyn nhw golli i Moldofa yn y rowndiau rhagbrofol ddydd Gwener.

Dyma oedd trydedd gêm y Cymry yn y grŵp yn dilyn gêm gyfartal adref yn erbyn Moldofa a buddugoliaeth swmpus yn erbyn Bwlgaria.

Ond dydyn nhw ddim eto wedi wynebu'r un o'r ddau dîm cryfa' yn y grŵp - Y Swistir a'r Iseldiroedd.

Roedd un gôl yn ddigon i'w setlo hi yn Orhei gyda Dinis Ieseanu yn sgorio gydag ergyd yn y cwrt wedi 20 munud o chwarae.

Er i Gymru daro'r trawst a gweld golwr Moldofa yn gwneud arbediad gwych i rwystro Jack Vale yn y munudau olaf, doedd dim gôl i ddod i dîm Paul Bodin.

Mae'r canlyniad yn gadael Cymru yn bumed yn y grŵp o chwech wedi iddyn nhw chwarae tair gêm.

Bydd y garfan nawr yn teithio i Nijmegen i herio'r Iseldiroedd nos Fawrth nesaf, 12 Hydref, a bellach mae cael rhywbeth o'r ornest yna yn hanfodol.