Trin tân bwriadol mewn mosg fel trosedd casineb
- Cyhoeddwyd
Mae tân mewn mosg yng Nghasnewydd yn cael ei drin fel trosedd casineb.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i adroddiadau o dân yn George Street tua 17:25 brynhawn Llun.
Addolwyr yn y mosg wnaeth ddiffodd y fflamau. Cafodd difrod ei achosi i'r adeilad ond chafodd neb niwed.
Mae dyn lleol 43 oed yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
"Ar hyn o bryd, rydym yn trin hwn fel trosedd casineb," dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Tom Harding.
"Dyw e byth yn dderbyniol i dargedu unrhyw un oherwydd pwy ydyn nhw a'r hyn maen nhw'n credu ynddo.
"Fe wnawn ni weithredu yn erbyn y rheiny sy'n cyflawni'r math yma o drosedd, gan roi'r dioddefwr wrth ganol popeth rydym ni'n ei wneud."
Ychwanegodd y bydd swyddogion ychwanegol i'w gweld yn y gymuned fel rhan o'r ymchwiliad ac fe apeliodd am wybodaeth gan y cyhoedd.