Cyngerdd i godi arian i'r ymgyrch ddyngarol yn Wcráin

  • Cyhoeddwyd
Mariupol, 20 MarchFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd nifer o artistiaid o Gymru ac Wcráin yn perfformio mewn cyngerdd mawr nos Sadwrn, i godi arian at yr apêl ddyngarol yn y wlad yn sgîl y rhyfel â Rwsia.

Mae'r cyngerdd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, hefyd yn cael ei ddarlledu ar S4C, ac mae'r sianel wedi addo cyfrannu punt am bob bunt sy'n cael ei godi drwy werthiant tocynnau, a hefyd holl incwm hysbysebu'r diwrnod i gronfa apêl DEC (Disasters Emergency Committee) ar gyfer pobl sy'n ffoi'r rhyfel yn Wcráin.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Siân Doyle: "Mae gwylio'r adroddiadau newyddion ar S4C yn gwneud i rywun deimlo'n ddiymadferth, ond drwy'r ffordd ymarferol yma rydym yn gobeithio y gall S4C a phawb yng Nghymru wneud cyfraniad i helpu."

Un o brif artistiaid y noson fydd Yuriy Yurchuk, bariton o Wcráin, wnaeth ganu anthem genedlaethol ei wlad y tu allan i 10 Stryd Downing ar ddechrau'r gwrthdaro ac sydd ar hyn o bryd yn perfformio yn Covent Garden.

Ffynhonnell y llun, S4C/Nick Treharne
Disgrifiad o’r llun,

Y bariton o Wcráin, Yuriy Yurchuk (chwith) a'r tenor o Fôn, Gwyn Hughes Jones

Mae'r cyngerdd yn cael ei arwain gan Elin Fflur ac yn cynnwys cyfraniadau gan Gwyn Hughes Jones, y tenor o Fôn, sy'n llysgennad i elusen Achub y Plant.

Yn ogystal â Yuriy Yurchuk mae gan nifer o'r artistiaid eraill gyswllt unigryw gyda'r sefyllfa bresennol yn Wcráin, gan gynnwys Orlyk, grŵp dawns Wcrainaidd ac Ysgol Plascrug Aberystwyth - ysgol leol sydd â 27 o ieithoedd amrywiol ac sydd â phlant o Wcráin yn ddisgyblion yno.

Hefyd ar y noson, bydd y Contemporary Music Collective yn canu gweddi i Wcráin, wedi ei chyfansoddi gan Tanya Harrison, sy'n gyfrifol am y grŵp. Mae'n dod o Wcráin yn wreiddiol ond yn byw yng Nghaerdydd bellach.

Mae'r artistiaid eraill yn cynnwys y tenor Dafydd Wyn Jones o Ddyffryn Clwyd, Côr y Cwm a Chôr Glanaethwy.

'Sefyllfa enbyd'

"Mae'r sefyllfa yn Wcráin yn enbyd," meddai Gwyn Hughes Jones, sydd wedi bod yn llysgennad i Achub y Plant, gyda'i wraig y gantores Stacey Wheeler, ers 2012, ac maent wedi perfformio mewn sawl cyngerdd i gefnogi gwaith yr elusen yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

"Mae miliynau wedi gorfod ffoi gyda dim ond y dillad ar eu cefnau; mwy na'i hanner yn blant sydd wedi profi erchyllterau na ddylai yr un plentyn eu gweld na'u clywed," meddai Gwyn.

"Bydd lleisiau Cymru ac Wcráin yn canu fel un er mwyn codi arian hanfodol ar gyfer elusennau fel Achub y Plant sy'n gweithio ar lawr gwlad gydag elusennau eraill sy'n aelodau o DEC i gyflenwi cymorth ar frys.

"Mae miliynau angen hanfodion sylfaenol fel bwyd, dŵr, blancedi, meddyginiaeth a chymorth seicolegol i helpu plant i ddelio gyda'r trawma. Mae'n fraint i dderbyn y gwahoddiad i gymryd rhan."

Mewn llai na mis mae Apêl Ddyngarol Wcráin DEC Cymru wedi codi dros £10m drwy wahanol ymdrechion gan gynnwys gem bêl-droed ryngwladol rhwng Cymru a'r Weriniaeth Tsiec.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffoaduriaid yma wedi croesi dros y ffin o Wcráin i Rwmania

Dywedodd Siân Stephen o'r DEC yng Nghymru ei bod yn "dorcalonnus" gweld y sefyllfa yn Wcráin yn datblygu.

"Ond mae gweithgareddau fel hyn yn cynnig gobaith. Bydd yr arian sy'n cael ei godi gan y cyngerdd yma yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai yr effeithir arnynt gan y gwrthdaro.

"Bydd yn danfon neges gref o gariad a chefnogaeth, tra hefyd yn galluogi elusennau'r DEC i ddarparu cymorth brys nawr yn ogystal â helpu i ailadeiladu bywydau yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod."