Darn o gelf dadleuol ym Mangor i gael ei symud

  • Cyhoeddwyd
Celf Y Caban
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r darn o gelf - 'Y Caban' - yn edrych fel estronwr, yn ôl un o'r bobl leol a siaradodd â Newyddion S4C

Bydd gwaith celf dadleuol yn cael ei symud o ganolfan Pontio ym Mangor wrth i'r Brifysgol drawsnewid Parc y Coleg gerllaw.

Mae'r 'Caban', sydd wedi'i wneud o wydr ffeibr gwyrdd llachar, wedi bod yn destun trafod mawr ers iddo gael ei osod yn hydref 2015.

Ond mae 'na gryn ymateb wedi bod i'r Caban 'modern' ger y ganolfan.

Newyddion S4C fu'n holi rhai o bobl ar y stryd ym Mangor, lle'r oedd yr ymateb yn ddigon damniol.

'Fel pen estronwr'

"Mae o'n eyesore yn tydi, a dwi'n meddwl bod lot o bobol yn meddwl hynny," dywedodd un o'r bobl leol.

"Mae o'n uffernol…uffernol," oedd ymateb un arall.

"I ddweud y gwir wrthach chi mae o'n edrych fel pen rhyw alien neu rywbath yn tydi… dwi'm yn gwybod pam bod o yna a dweud y gwir... dwi'n meddwl bod o rywbeth mwya' hyll y gweles i erioed!" oedd barn aelod arall o'r gymuned.

Disgrifiad o’r llun,

Mae modd mynd i mewn i'r Caban a chysgodi

Cafodd ei greu gan yr artist o'r Iseldiroedd, Atelier Van Lieshout, ac mae wedi ei symbylu gan hanes y Caban yn y chwareli yng Ngogledd Cymru.

Byddai'r chwarelwyr yn cwrdd yn y Caban amser cinio i drafod pynciau gwleidyddol a chynnal digwyddiadau diwylliannol.

'Testun trafod yw celf'

Mae Iwan Williams o Brifysgol Bangor yn derbyn bod Caban wedi bod yn ddadleuol ond dywedodd mai pwrpas celf yw annog trafodaeth.

"Mae 'na ystod eang o opiniau dwi'n meddwl am y peth, ond wrth gwrs diben celf yn aml yw ysgogi rhyw fath o drafodaeth a dwi'n meddwl mae Caban wedi gwneud hynny yn sicr," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Pwrpas gwaith celf yw creu trafodaeth yn ôl Iwan Williams o Brifysgol Bangor

Mi fydd Caban yn cael ei symud o'i safle presennol ac yn cael ei storio tan dod o hyd i gartref newydd iddo.

Y cynllun yw ailddatblygu Parc y Coleg dros y 15 mis nesaf.

Bydd amffitheatr lle mae'r caban yn sefyll rŵan a llawer mwy i gysylltu y Coleg ar y Bryn a Dinas Bangor islaw.

Dywedodd Iwan Williams mai creu "parc i bawb" yw nod y datblygiad. "Parc i Fangor... parc i bawb," eglurodd.

"Mae na ddyhead o fewn y Brifysgol i wneud y lle 'ma yn barc sydd yn agored, yn ddeniadol, yn teimlo'n saff, yn wyrdd… ac yn lle hygyrch i bobl o bob oedran.

"Yn sicr rhywle i ddenu staff a myfyrwyr y Brifysgol ond hefyd i ddod â'r gymuned leol i mewn i'r parc ac i fwynhau'r cyfleusterau fydd yma".

'Pont o dir'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Caban ar dir sy'n 'bont' rhwng y brifysgol a chanol y ddinas

Wrth ymateb i'r cynlluniau i ail-ddatblygu Parc y Coleg, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, y bydd yn "creu ardal llawer mwy deniadol i bobl ei ddefnyddio yng nghanol y ddinas".

"Gwyddwn fod treulio amser mewn ardaloedd gwyrdd yn wych ar gyfer lles, felly rydym eisiau annog pobl i gymryd amser i'w hunain i ymarfer corff a mwynhau byd natur, tra hefyd yn darparu gofod cyhoeddus hygyrch ar gyfer digwyddiadau allanol."

Ychwanegodd Lars Wiegand, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo a Champws Prifysgol Bangor: "Rydym mor ffodus i gael man gwyrdd mor fawr mor agos at ganol y ddinas, sy'n creu 'pont o dir' gwyrdd rhwng y brifysgol a'r ddinas.

"Rydym eisiau ei wneud yn le dymunol a phoblogaidd i bawb."