Ailagor Stryd Fawr Bangor wedi misoedd o waith
- Cyhoeddwyd
Ar ôl bron i 18 mis ers ei chau, bydd rhan o Stryd Fawr Bangor yn ailagor i gerbydau ddydd Mercher.
Fe gaeodd y lôn yn Rhagfyr 2019 ar ôl tân mewn bwyty - digwyddiad a achosodd ddifrod sylweddol i adeilad arall cyfagos.
Wedi i sgaffaldau gael eu codi i sefydlogi'r adeilad yn ystod y cyfnod hwn, gan rwystro'r lôn i gerbydau, fe wnaeth nifer o fusnesau gwyno eu bod wedi dioddef colledion ariannol.
Roedd yna bryderon bod rhai siopwyr yn cadw draw a bod eraill ddim yn sylwi bod y siopau ar agor.
Mae Cyngor Gwynedd wedi "diolch i drigolion a masnachwyr am eu hamynedd".
Yn ôl rhai perchnogion busnes dim ond "pedwar mis" oedd y lôn fod ynghau yn wreiddiol.
Ond oherwydd natur gymhleth y tân, y difrod ac effaith y pandemig, fe ddaeth hi i'r amlwg y byddai'r lôn ar gau am gyfnod llawer hirach - ac roedd siopau ar ben stryd fawr hiraf Cymru yn gweld y cyfan yn anodd.
Oedi 'dychrynllyd'
Mae Carys Davies yn berchen ar siop ddillad So Chic ac wrth i'r ffordd agor ddydd Mercher, mae hi'n dweud fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn "anodd iawn".
"Dydy'r traffig heb allu dod i fyny," meddai.
"Dydy pobl ddim wedi gweld hi'n rhwydd dod fyny - yn enwedig pan oedd sgaffaldau mawr fyny. Oedd o fel rhwystr a phrin oedd y ffordd gerdded.
"Mi oedd hi'n reit dawel yn gyffredinol ar y stryd."
Wrth drafod yr oedi i'r gwaith dros gyfnod y pandemig, mae Ms Davies yn ychwanegu fod y rhwystrau wedi bod yn "ddychrynllyd".
"Mae'r oedi wedi bod bron yn annioddefol," meddai.
"Mae o mor rhwystredig ar ôl yr holl fisoedd o fod wedi cau a dod 'nôl a dim byd wedi ei wneud, mi oedd hynny really yn drawiad i fod yn onest."
'Mae 'na obaith - hwre!'
Ond gyda'r gwaith bellach wedi dod i ben a Chyngor Gwynedd yn ailagor y ffordd fore Mercher, mae hi'n dweud y bydd yna "wahaniaeth mawr".
"Mae 'na obaith - hwre!" meddai.
"Mi fydd yna wahaniaeth mawr - nid yn unig i fy musnes i ond i fusnesau eraill. Mae 'di bod yn anodd iawn o ran deliveries a phobl methu dod yn agos at y siop.
"Fydd gweld trafnidiaeth yn dod heibio a phobl yn troedio - wel mi fydd hynny'n bleser."
Mae'r lôn wedi bod ar agor i siopwyr ar droed ac er i faner enfawr ar y sgaffaldau ei gwneud hi'n glir fod dros 70 o fusnesau yno yn parhau i fasnachu, mae nifer yn dweud fod y gwaith ynghyd â'r pandemig wedi gwneud y flwyddyn ddiwethaf yn anodd iawn.
Mewn datganiadau blaenorol mae Cyngor Gwynedd wedi mynegi "siom" am yr oedi ac wedi ystyried "camau gorfodaeth".
'Proses eithriadol o gymhleth'
"Dwi'n llwyr cydymdeimlo efo'r busnesau ac mae'n bwysig ein bod ni'n cefnogi nhw rŵan," meddai Catrin Wager, cynghorydd lleol, ar raglen Dros Frecwast.
"Ma'i 'di bod yn broses eithriadol o gymhleth yn dechnegol ac yn gyfreithiol a ma'i 'di bod yn brosiect anodd iawn.
"Pob tro oedd o'n symud mlaen o'dd 'na her eto.
"Oedd angen craen mawr - 200 tunnell - ond oedd angen hefyd atgyfnerthu'r lôn a hynny'n dangos mawredd y gwaith. Ond diolch rŵan bod o ar agor."
Ddydd Mercher fe ddywedodd Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd ei fod yn falch bod y lôn yn ailagor.
"Hoffwn ddiolch yn enfawr i drigolion a masnachwyr lleol am eu hamynedd a'u dealltwriaeth trwy gydol y cyfnod anodd hwn ynglŷn â'r sefyllfa parthed 164 a 166 Stryd Fawr, Bangor," meddai.
"Hoffwn hefyd estyn fy niolch i gwmni peirianwyr EWP a'r holl bartneriaid a fu'n rhan o'r gwaith cymhleth yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2019