Pier Garth, Bangor yn cipio gwobr pier y flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Pier Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Ar ddiwrnodau braf mae cannoedd o bobl yn ymweld â'r pier

Mae pier rhestredig Gradd II Bangor wedi ennill gwobr Pier y Flwyddyn.

Daw'r wobr wrth i'r safle ddathlu ei ben-blwydd yn 125 oed.

Dywed y Gymdeithas Pierau Cenedlaethol fod Pier Garth y mwynau "y golygfeydd panorama gorau o unrhyw bier yn y Deyrnas Unedig".

Cafodd pier Bae Colwyn ei ddewis yn drydydd yn yr un gystadleuaeth.

Mae'r golygfeydd o Bier Garth yn cynnwys Afon Menai a Môn i'r chwith, Llandudno i'r dde, a mynyddoedd Eryri yn gefndir i'r cyfan.

Yn ymestyn hyd at 1,500 o droedfeddi, hwn ydy'r ail bier hiraf yng Nghymru gydag amryw o siopau a chaffis ar ei hyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r wobr y "tu hwnt i'n breuddwydion" meddai Avril Wayte

Dywedodd Avril Wayte, cadeirydd Cyfeillion Pier Bangor ei fod yn "hynod, hynod o falch" o dderbyn y clod.

"Mae hyn y tu hwnt i'n breuddwydion, a gallwn ni ddim aros i groesawu'r byd i'n pier ni."

"Allan o 63, y ni sy' wedi ennill.

"De' ni wedi bod yn gweithio mor galed, Cyngor Dinas Bangor, ni fel ffrindiau'r pier, y bobl sy'n cadw'r ciosgau i wneud y pier yn fwy syfrdanol, mwy prysur ac yn fwy hapus a ma' wedi gweithio.

"De' ni wedi cael ein pleidleisio y pier gorau ym Mhrydain.

"Mae pobl wrth eu bodd yn dod yma a just ymlacio, hyd yn oed yn y gwynt a'r glaw a'r eira."

Disgrifiad o’r llun,

Y pier yn 1974 cyn gorfod ei gau oherwydd pryderon diogelwch

Yn 1971 roedd yna bosibilrwydd o'i ddymchwel oherwydd pryderon diogelwch.

Ond fe'i hachubwyd gan Gyngor Dinas Bangor pan gafodd ei brynu am 1c yn 1975, ac fe fu gwaith atgyweirio sylweddol wedi hynny.

Dywedodd Gavin Henderson, llywydd y Gymdeithas Pierau Cenedlaethol fod y safle yn llawn haeddu'r clod "a'i fod ei gefnogwyr ffyddlon yn haeddu marciau llawn am adfer ei ogoniant gwreiddiol".

Dywedodd y cynghorydd Owen Hurcum, Maer Bangor: "Ni fydd unrhyw un sy'n adnabod y pier bendigedig yma yn synnu fod Bangor wedi ennill Pier y Flwyddyn 2022 - ac wedi ei synnu yn fwy nad ydynt yn ennill bob blwyddyn!

"Ond ar nodyn difrifol, mae'n gymaint o glod i'r pier ac yn dyst i'r gwaith caled mae gymaint o bobl wedi ei wneud dros y blynyddoedd."

Pynciau cysylltiedig