Oriel: Pier Bangor yn 125 oed
- Cyhoeddwyd
Mae arddangosfa yn Storiel Bangor ar hyn o bryd sy'n dathlu 125 mlynedd ers agor Pier Bangor.
Gan ymestyn 470 medr dros Afon Menai dyma ail bier hiraf Cymru - tu ôl i Bier Llandudno - a'r nawfed hiraf yng Nghymru a Lloegr.
Adeiladwyd y pier, sydd wedi ei restru fel adeilad Gradd ll, yn 1896 gan y dylunydd J. J Webster am £14,475, sy'n gyfystyr â dros £2 filiwn y dyddiau yma.
Wrth edrych ar y ffensys haearn, y ciosgau a'r giatiau mae dylanwad yr oes Fictoraidd yn amlwg ac mae'n parhau i'n hatgoffa'n gryf o gymeriad y cyfnod hyd heddiw.
Yn ystod ei ddyddiau cynnar byddai rheilffordd gul wedi ei gosod arno er mwyn cludo bagiau teithwyr fyddai'n glanio yno o lefydd fel Lerpwl a Blackpool.
Difrodwyd y pier yn 1914 ar ôl i long nwyddau'r SS Christina dorri'n rhydd o'i hangor. Roedd gymaint o hollt fel y bu rhaid i beirianwyr brenhinol Ynys Môn greu pont drosti.
Boddwyd Sappers Lionel Hemingway a Samuel Hill yn ystod yr ymdrech i'w atgyweirio oherwydd tonnau garw'r Fenai. Maen nhw wedi eu claddu ym mynwent Biwmares.
Yn 1927 sefydlwyd labordy bioleg forol yn un o giosgau'r pier gan y Prifathro Philip Whyte oedd wedi bod yn dysgu ym Mhrifysgol Bangor (Prifysgol Cymru ar y pryd) am ddeugain mlynedd.
Cymerodd y Prifathro Francis Brambell yr awenau yn 1929 cyn sefydlu cwrs Sŵoleg Forol yn y brifysgol sydd bellach yn Ganolfan Gwyddorau Morol fyd enwog.
Erbyn 1971 penderfynwyd cau'r pier oherwydd ei gyflwr gwael ac roedd posibilrwydd o'i ddymchwel. Ond fe'i achubwyd gan Gyngor Dinas Bangor wnaeth ei brynu gan Gyngor Bwrdeistref Arfon am 1c yn unig.
O dan arweiniad y Maer John Hadyn Jones adnewyddwyd y pier gan adeiladwyr lleol am swm o £750,000.
Yn ystod ei chyfnod fel Maer Bangor aeth y Cynghorydd Lesley Day ati i godi arian i'r pier drwy wneud naid elusennol oddi arni ym mis Gorffennaf 1997.
Dechreuwyd gwaith adfer eto ar y pier yn 2017 gyda chyllid o £1 miliwn gan Gyngor Dinas Bangor. Cwblhawyd y gwaith dros gyfnodau drwy sanblastio, rhoi gwaith haearn newydd o islaw'r pier, a datgysylltu'r hen fan glanio ar y pen.
Mae'r prosiect bellach wedi dod i ben ac mae Ffrindiau Pier Garth Bangor yn gobeithio codi mwy o arian i wella golwg y pier.
Hefyd o ddiddordeb: