Pobl 'ofn' yr iaith, ond newid 'sylweddol' i agweddau
- Cyhoeddwyd
Mae'r gŵr oedd yn gyfrifol am hyrwyddo'r Gymraeg yn rhai o siroedd y de ddwyrain am chwarter canrif yn dweud bod agweddau tuag at yr iaith wedi newid yn sylweddol.
Mae Alan Burkitt newydd ymddeol o'i swydd fel swyddog cydraddoldeb a'r Gymraeg gyda Chyngor Sir Fynwy.
Bu'n gweithio yno am ddegawd, a chyn hynny yn gwneud swydd debyg gyda Chyngor Blaenau Gwent am 15 mlynedd.
Mae'n cofio'r ymateb wrth iddo ddechrau'i swydd ym 1997 ac yntau'n siarad â swyddogion y cyngor ynglŷn â gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg, oedd wedi dod i rym bedair blynedd ynghynt.
'Talcen caled'
"Fi'n cofio trefnu cyfarfod gyda'r prif swyddogion a dweud 'Right we've got to do this, this and this'. A'r ymateb oedd 'Huh, it's a waste of money, who the hell wants this blooming language?
"Ma' fe'n dalcen caled i raddau achos mae rhai pobl ddim yn deall... a fi'n credu bod rhai pobl sy'n ddi-Gymraeg... sy'n Gymry... maen nhw ofn yr iaith a fi ddim cweit yn siŵr pam."
Yn ei farn e', diffyg dealltwriaeth am hanes y Gymraeg yn yr ardal honno oedd un o'r rhesymau dros yr ymateb negyddol.
"Y broblem yw ni ddim yn cael ein dysgu am hanes yr iaith yng Nghymru.
"A fi'n credu os mae rhai pobl yn deall am frad y llyfrau gleision a phethe fel 'ny sydd wedi digwydd dros y canrifoedd, falle bydden nhw'n dechre meddwl tamed bach yn wahanol beth sydd wedi digwydd i'r iaith.
"Nôl yn 1861, ro'dd 60% o bobl ym mhlwyf Goetre ger Y Fenni (lle mae Alan yn byw gyda'i deulu) yn siarad Cymraeg yn unig - dim Saesneg. Ond sdim y dealltwriaeth, sdim yr hanes yn cael ei ddysgu."
Serch hynny, mae'n dweud bod pethau wedi newid dros y cyfnod bu'n gweithio i'r ddau gyngor.
Dangosodd ystadegau Cyfrifiad 2011 mai Sir Fynwy oedd un o ddwy sir yng Nghymru a welodd gynnydd yng nghanran y siaradwyr Cymraeg.
Yng Nghyfrifiad 1991, 2.3% o boblogaeth y sir oedd yn siarad Cymraeg. Erbyn y cyfrifiad nesa' ddegawd yn ddiweddarach roedd wedi cynyddu i 9.3%, a chynnydd eto i 9.9% yn 2011.
Yn ôl Alan mae wedi digwydd o ganlyniad i'r twf mewn addysg Gymraeg yn ogystal â diddordeb pobl hŷn mewn dysgu'r iaith a'r ffaith fod pobl yn symud i'r sir o rannau eraill o Gymru.
Mae hefyd yn tynnu sylw at ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â'r Fenni yn 2016.
"Odd e'n grêt achos o'dd y ffigyrau ymwelwyr ar yr wythnos yn ffantastig a nid jyst pobl yn dod o'r cadarnleoedd... o'dd pobl yn meddwl 'reit mae'r steddfod yma dwi'n mynd i ddod mewn i gael cip i weld beth yw e'."
Mae'n pwysleisio hefyd pa mor bwysig yw hi bod siaradwyr Cymraeg yn defnyddio'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig
"Mae lan i'r cyngor ddarparu mwy o wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Sdim digon o staff gyda ni i neud hwnna nawr, ond y mwya' o bobl sy'n mynnu, y mwya' mae'r cyngor yn gorfod meddwl am neud pethe, a wedyn bydd y twf yn dod."
'Mae lot o bobl yn swil'
Yn y dyfodol mae hefyd yn gobeithio bydd modd clywed mwy o'r iaith ar strydoedd Sir Fynwy.
"Mae 12,000 o siaradwyr Cymraeg yn y sir ond ble ti'n gallu cwrdd â nhw... ble ti'n mynd i glywed yr iaith 'na.
"On i'n siarad â boi dros yr hewl ddoe a wedes i ti'n siarad Cymraeg? O'dd e wedi mynd i Ysgol Gyfun Gwynllyw ond d'odd dim clem da fi bod e'n siarad Cymraeg
"Mae lot o bobl yn swil nagyn nhw - maen nhw'n swil am byti safon eu Cymraeg nhw.
"Fi wedi siarad gyda sawl un sy'n dweud 'oh my Welsh isn't very good' ond ar ôl byti hanner awr o bwsho nhw, maen nhw'n dechre cyfathrebu.
"Shwd ti'n gw'bod bod pobl yn siarad Cymraeg? Ti ffaelu edrych arnyn nhw a gweld bo nhw'n siarad Cymraeg. Mae fe yna, ond shwd i dynnu fe mas ife?"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2019
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd26 Mai 2014