Y Bencampwriaeth: Reading 1-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Tîm yn crafu eu ffordd allan o'r tri isaf yw Reading yn y Bencampwriaeth ond brynhawn Sadwrn ar ôl saith munud daeth croesiad grymus gan Andy Yiadom ac roedd Lucas Joao ar y postyn pellaf i benio i'r rhwyd a rhoi'r tîm cartref ar y blaen.
Daeth tîm y brifddinas yn ôl i'r gêm yn yr ail hanner. Ar ôl 59 munud derbyniodd Alfie Doughty y bêl gan Joe Ralls ar ymyl y cwrt a gyda chyffyrddiad crefftus gwthiodd y bêl i gefn y rhwyd.
Roedd cefnogwyr yr Adar Gleision yn dathlu a nhw bellach oedd yn rheoli'r gêm - fe'u gwobrwywyd gydag ergyd droed dde Will Vaulks yn eu rhoi ar y blaen gyda phum munud i fynd.
Cafodd saith munud eu hychwanegu ar ddiwedd y gêm ond doedd yna ddim sgôr pellach.
Roedd Caerdydd angen buddugoliaeth wedi'r golled arwyddocaol yn erbyn Abertawe wythnos diwethaf.
Mae'r Adar Gleision yn aros yn yr 17eg yn y Bencampwriaeth.