Chwe Gwlad Merched: Lloegr 58-5 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cymru yn atal ymosodiad LloegrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cymru yn atal ymosodiad gan Loegr

Wedi llwyddiant yn erbyn Iwerddon a'r Alban fe gollodd Cymru yn drwm brynhawn Sadwrn yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched.

Cais Lark Davies oedd y cyntaf i roi'r Saeson ar y blaen wedi 16 munud ac yn yr hanner cyntaf fe ddaeth ceisiau gan Abbie Ward a Jess Breach ac wedi trosi llwyddiannus roedd y sgôr ar hanner amser yn 19-0.

Wedi 46 munud fe ddaeth cais pwynt bonws i Loegr wrth i Lark Davies sgorio eto ac o fewn pum munud roedd yna gais arall i Jess Breach ac er i Zoe Harrison fethu trosi roedd y Saeson 29 pwynt ar y blaen wedi 53 munud.

Er bod amddiffyn Cymru yn ddigon cryf ar brydiau roedd yna fwy o geisiau yn yr ail hanner i Loegr - y tro hwn i Sarah Bern ac Alex Mathews.

Ond wedi 69 munud roedd yna gais i Gymru wrth i Kelsey Jones groesi - methiant fu ymdrech Keira Bevan i drosi.

Fe wnaeth y Saeson ymateb yn gyflym gan sgorio tri chais arall ymhen munudau - y tro hwn y prop Shaunagh Brown, Emily Scarratt a Sarah Hunter wnaeth groesi'r gwyngalch.

Y sgôr terfynol Lloegr 58-5 Cymru.