Prifysgol Caerdydd: Tro pedol ar seremoni graddio myfyrwyr

  • Cyhoeddwyd
myfyrwyrFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cael y seremoni graddio "maen nhw'n ei haeddu" ar ôl tro pedol gan y trefnwyr.

Bu protestio yn erbyn cynlluniau a fyddai wedi golygu myfyrwyr yn methu â chasglu eu graddau yn unigol.

Cyhuddodd deiseb - a gyrhaeddodd fwy na 5,000 o lofnodion - y brifysgol o "leihau profiad myfyrwyr".

"Rydym wedi gwrando, rydym yn deall, ac rydym wedi ymrwymo i ymateb i'ch adborth," meddai'r dirprwy is-ganghellor Claire Morgan mewn e-bost at fyfyrwyr.

Bellach bydd seremonïau graddio ar gyfer y rhai sydd heb allu graddio mewn person oherwydd cyfyngiadau Covid yn digwydd dros dri diwrnod ym mis Gorffennaf.

O ganlyniad i adborth gan fyfyrwyr, byddan nhw nawr yn cael cydnabyddiaeth yn unigol, yn cael eu henw wedi'i ddarllen allan ac yn cael cyfle i gerdded ar draws y llwyfan.

Bydd y seremonïau yma yn cael eu cynnal ar gampws y brifysgol.

Bydd y seremoni a gynlluniwyd yn flaenorol yn Stadiwm Principality yn dal i gael ei chynnal.

Pynciau cysylltiedig