Seremoni raddio Caerdydd wedi 'siomi' myfyrwyr

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm Principality
Disgrifiad o’r llun,

Mae seremonïau'n cael eu cynnal dros dri diwrnod yng Ngorffennaf yn Stadiwm Principality

Mae rhai o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn dweud eu bod wedi "siomi" ac "yn grac" ynglŷn â threfniadau ar gyfer seremonïau graddio yn yr haf.

Mae dros 4,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn cwyno bod dim cyfle i raddedigion groesi'r llwyfan un ar y tro, ac yn galw ar y brifysgol i drefnu dathliad teilwng.

Bu'n rhaid canslo seremonïau am ddwy flynedd oherwydd Covid-19 ond eleni mae prifysgolion yn cynnal dathliadau ar gyfer graddedigion 2020, 2021 a 2022.

Dywedodd Prifysgol Caerdydd ei bod yn "ystyried yr adborth" cyn pennu'r holl drefniadau.

Mae seremonïau'n cael eu cynnal dros dri diwrnod yng Ngorffennaf yn Stadiwm Principality, ond mae myfyrwyr wedi cael gwybod na fyddan nhw'n cael eu cyflwyno'n unigol ond yn hytrach yn cael eu cydnabod fesul adran.

'Torcalonnus'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tirion Davies yn feirniadol o'r cynlluniau

Dywedodd Tirion Davies o Fro Morgannwg, sy'n dilyn cwrs meistr ar ôl graddio o'r brifysgol y llynedd, bod clywed manylion y trefniadau yn "dorcalonnus" i nifer ar ôl y cyffro gwreiddiol o ddarganfod mai yn Stadiwm Principality fyddai'r seremoni.

Fe fyddai wedi hoffi cael seremoni "draddodiadol" a chael croesi'r llwyfan, meddai, ac yn sgil y pandemig mae'n teimlo bod y sefyllfa'n fwy siomedig fyth.

"Yn enwedig y bobl oedd yn gweithio ar y frontline yn ystod Covid, oedd yn gweithio er oedden nhw'n astudio, yn mynd mas, yn mynd i'r ysbyty bob dydd i helpu pobl, iddyn nhw mae'n teimlo'n bach o ergyd".

Mae Prifysgol Caerdydd yn dweud bod trefnu'r seremonïau yn her ymarferol anferth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prifysgol Caerdydd am "sicrhau bod amser ar gyfer cydnabyddiaeth a dathlu personol"

"Mae'r maint a'r niferoedd yn golygu y byddai'n anodd cadw rhai elfennau o'n seremonïau traddodiadol, yn enwedig darllen enwau a chroesi'r llwyfan yn y seremoni ei hun", meddai'r Athro Claire Morgan, Dirprwy Is-ganghellor y brifysgol mewn datganiad.

"Mae'n cymryd o leiaf awr i ddarllen tua 350 o enwau; ond bydd pob seremoni yng Nghaerdydd yn cynnal miloedd o raddedigion."

Ond ychwanegodd eu bod yn "chwilio am ffyrdd o ymgorffori elfen bersonol… er mwyn sicrhau bod amser ar gyfer cydnabyddiaeth a dathlu personol".

'Rhyddhad'

Mae holl brifysgolion Cymru yn gwneud trefniadau ar gyfer dathliadau i'r rheini fethodd â chael seremoni raddio yn 2020 a 2021.

Mae Prifysgol De Cymru yn cynnal 23 seremoni lawn i fyfyrwyr 2020 a 2021, gan ddechrau'r wythnos hon.

Ymhlith y cannoedd o fyfyrwyr yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru oedd Steffan Clifton o Aberystwyth.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Steffan Clifton yn falch o gael seremoni raddio o'r diwedd

Dywedodd ei bod hi'n "rhyddhad" graddio'n ffurfiol ar ôl peidio â chael seremoni y llynedd pan orffennodd ei radd ffoto-newyddiaduraeth.

"Oedd o'n drist jyst eistedd yn llofft fi a dyna fo... uni wedi gorffen", meddai.

"Mae'n neis finally dathlu efo ffrindiau, efo lecturers hefyd - neis gweld nhw eto ar ôl blwyddyn galed."

Mae trefniadau seremonïau eleni wedi bod yn heriol, meddai'r Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth - gan gynnwys yr her o gyfathrebu gyda myfyrwyr oedd wedi symud ymlaen ers dwy flynedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae seremoni raddio yn "benllanw" ar gyfnod prifysgol, meddai'r Athro Anwen Jones

"Ry'n ni'n bwriadu dyblu ein seremonïau i fynd o wyth seremoni yn ystod saith diwrnod i 16," meddai.

Dywedodd bod y seremonïau graddio "yn hollbwysig".

"Mae'r seremonïau yn benllanw ar gyfnod o astudiaeth... ac yn rhyw fath o drothwy i fyfyrwyr wrth iddyn nhw adael y brifysgol," ychwanegodd.