Enwi dyn 89 oed fu farw ar ôl gwrthdrawiad yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi enwi dyn a fu farw ar ôl gwrthdrawiad car ar gyrion Caernarfon.
Galwyd swyddogion toc wedi 11:00 fore Mawrth yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad un cerbyd Mazda gwyn ar yr A487 ger cylchfan Cibyn a Llanrug.
Cludwyd y gyrrwr, George Wilson Stewart, 89, o Landrillo-yn-Rhos i Ysbyty Gwynedd, ond bu farw o'i anafiadau nos Fercher.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion.
"Dwi'n cydymdeimlo'n ddiffuant â theulu Mr Stewart," meddai Sarjant Jason Diamond o Uned Plismona'r Ffyrdd.
"Mae ein hymchwiliad yn parhau i sefydlu beth ddigwyddodd ac rwy'n awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A4086 ar fore Mawrth, Ebrill 4, ac allai fod wedi gweld Mazda gwyn yn teithio i gyfeiriad Bangor, neu rhywun all fod gyda lluniau camera cerbyd, i gysylltu â ni.
"Credir fod y cerbyd wedi teithio i Bwllheli cyn y gwrthdrawiad, felly gofynnir i unrhyw un oedd yn teithio o Bwllheli i gyfeiriad ardal Caernarfon fore Mawrth, rhwng 9:00 ac 11:00, a allai fod wedi gweld y cerbyd yn cael ei yrru mewn ffordd yn wahanol i'r cyffredin, hefyd i gysylltu gyda ni."
Mae'r crwner wedi'i hysbysu ac mae teulu Mr Stewart yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.