Maes Awyr Caerdydd wedi'i 'ddileu' gan Covid

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Maes Awyr Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y rheolwr mai'r pandemig oedd yr "amser mwyaf heriol erioed" i Faes Awyr Caerdydd

Cafodd busnes Maes Awyr Caerdydd ei "ddileu" gan Covid ac fe allai gymryd pedair blynedd arall i adfer y sefyllfa, yn ôl y rheolwr.

Bydd cwmni hedfan Wizz Air yn lansio teithiau o Gaerdydd ddydd Gwener, ac mae'r rheolwr Spencer Birns yn gobeithio denu teithwyr newydd.

Dywedodd Mr Birns mai'r pandemig oedd yr "amser mwyaf heriol erioed" i'r maes awyr, gyda nifer y teithwyr blynyddol yn gostwng o 1.6 miliwn i sero.

Ond mae'n hyderus y bydd o leiaf 50% ohonynt yn dychwelyd eleni.

'Gweld yr adfywiad'

"Fe gafon ni ein dileu, fwy neu lai, gan argyfwng Covid," meddai Mr Birns.

"Yr adeg hon y llynedd roedden ni'n ffodus i weld 400 o bobl yr wythnos yn dod drwy'r adeilad."

Yn y misoedd diwethaf mae Mr Birns wedi goruchwylio dyfodiad Wizz Air i Gaerdydd, ac mae'n gobeithio y bydd y cwmni newydd yn hybu diddordeb gan deithwyr.

Canolfan newydd Wizz Air ym Maes Awyr Caerdydd ydy'r cyntaf gan gwmni hedfan cost isel ers i BMI Baby ymsefydlu yno yn 2002, cyn i'r cwmni fynd i'r wal yn 2011.

Disgrifiad o’r llun,

"Fe gafon ni ein dileu, fwy neu lai, gan argyfwng Covid," meddai Spencer Birns

"Ar hyn o bryd rydym yn gweld yr adfywiad. Ers i'r cyfyngiadau gael eu codi ar 11 Chwefror ry'n ni wedi dechrau gweld cynnydd mawr yn nifer y bobl sydd am deithio," meddai Mr Birns.

"Ac rydyn ni'n disgwyl i'r haf hwn fod yn llawer prysurach. Rydyn ni'n disgwyl i bobl fynd ar y teithiau hynny maen nhw wedi bod yn aros amdanynt."

'Fel mynd yn ôl i'r 50au'

Araf ydy'r adferiad i Faes Awyr Caerdydd a'r diwydiant awyrennau ehangach.

Mae cwmnïau awyrennau yn ailddechrau eu hediadau yn raddol ac yn ailsefydlu perthnasau gyda meysydd awyr bach fel Caerdydd.

Dywedodd Mr Birns fod effaith y pandemig wedi rhoi'r maes awyr "yn ôl i'r man lle'r oedden ni yn y 1950au" pan agorodd am y tro cyntaf.

"Roedden ni mewn sefyllfa lle o'n ni wedi gostwng o gynnig 52 llwybr hedfan i ddim byd. Roedden ni wedi mynd o 1.6 miliwn o deithwyr yn defnyddio'r cyfleusterau'n rheolaidd i lawr i ddim," meddai.

Ffynhonnell y llun, Wizz Air
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cwmni hedfan Wizz Air yn lansio teithiau o Gaerdydd ddydd Gwener

Mae Llywodraeth Cymru, sy'n berchen ar y maes awyr drwy gytundeb hyd braich, wedi ei gefnogi gyda chyllid ychwanegol yn ystod y pandemig.

Mae'r ddwy ochr bellach wedi ymrwymo i gytundeb "achub ac adfer" fydd yn para pum mlynedd, ac sy'n darparu cymorth ariannol tra bod nifer y teithwyr yn cynyddu i'r lefelau cyn y pandemig.

"Byddem yn disgwyl dychwelyd i normalrwydd erbyn 2026. Mae'n mynd i gymryd amser," meddai Mr Birns.

"Mae angen i ni gael y llwybrau hedfan yn ôl, cael y teithiau hedfan i fod yn hyfyw gyda'n partneriaid yn y cwmnïau hedfan, ac adeiladu ar berthnasau hirdymor.

"Yna mae'n rhaid creu llwyddiant pellach ar ôl hynny, a bydd hynny'n dod pan fydd y cwmnïau hedfan yn ychwanegu mwy o hediadau a mwy o ddewis i deithwyr."

Teithiau Qatar i ddychwelyd?

Mae'r uchelgais yn cynnwys dychwelyd hediadau Qatar Airways o Gaerdydd i Doha.

Dyw Qatar Airways ddim eto wedi cadarnhau a fydd yn dychwelyd i Gaerdydd, ond mae Mr Birns yn obeithiol y bydd trafodaethau parhaus yn dod â'r awyrennau yn ôl erbyn 2024.

Dydy Qatar Airways "ddim wedi dweud wrthym ein bod ni allan o'u cynlluniau nhw," ychwanegodd Mr Birns. "Mae'n ymwneud â'r amseru, a sut ydyn ni'n gallu parhau i lobïo a datblygu'r berthynas gyda nhw."