3 Llun: Lluniau pwysicaf Rhydian Bowen Phillips
- Cyhoeddwyd
![Y cyflwynydd Rhydian Bowen Phillips](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/12D2A/production/_124089077_rhydian.jpg)
Y cyflwynydd Rhydian Bowen Phillips
Os fyddai rhaid i chi ddewis 3 llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau bydden nhw?
Yr wythnos yma, Rhydian Bowen Phillips sy'n rhannu ei hoff luniau gyda Cymru Fyw. Dyma dri o'r lluniau sy'n golygu mwyaf i'r cyflwynydd.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/7DC6/production/_124089123_line976.jpg)
![Rhydian ar wyliau gyda'i rieni](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17B4A/production/_124089079_rhydian2.jpg)
Rhydian ar wyliau gyda'i rieni
Rydw i wrth fy modd gyda nostalgia ac mae'n siŵr bod hynny oherwydd fy mod yn ysu am y teimlad yna o fod yn saff, tra yn fach, gyda Mam a Dad. Wedi colli Dad ers dros 21 mlynedd a Mam ers bron i 7 mlynedd, mae'r lluniau ohonon ni gyda'n gilydd yn weddol brin ond mor gysurus. Aethon ni byth dramor fel teulu felly roedd ein gwyliau gan amla' o gwmpas trefi glan môr Cymru, Lloegr a'r Alban pan o'n i'n fach. Dyddiau da!
![Rhydian Bowen Phillips ddiwrnod ei briodas yn Llanrhidian, y Gwŷr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/46B2/production/_124089081_rhydian3.jpg)
Ar ddiwrnod ei briodas yn Llanrhidian, y Gwŷr
Diwrnod ein priodas. Diwrnod bythgofiadwy. Fe briodon ni ar y 29 Hydref 2018 yn Llanrhidian, y Gwŷr a'r llun yma yw hoff un Chel a fi o'r diwrnod. Tra bo' ein gwesteion yn mwynhau ychydig o fwyd a diod, aethon ni gyda'r ffotograffydd Marc Smith i dynnu lluniau a digwydd bod, daeth y ceffylau gwyllt draw aton ni ac wynebu'r camera tra bod y cymylau yn clirio. Anghredadwy.
![Rhydian Bowen Phillips a'i fab](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/94D2/production/_124089083_rhydian4.jpg)
Rhydian yn gafael ei fab Teifi Glyndŵr
Genedigaeth ein mab Teifi Glyndŵr 13/11/19 - Mae 'na gymaint o emosiynau a theimladau yn y llun yma. Cariad pur i ddechrau. Balchder ag edmygedd am beth oedd Chel wedi bod trwyddo. Tristwch o beidio gallu cyflwyno Teifi bach i fy rhieni. Cyffro. Blinder. Anghrediniaeth o wedi bod yn ddigon lwcus i fod yn Dad a gŵr o'r diwedd. Hefyd, daeth Teifi i'r byd ychydig fisoedd cyn i'r byd newid yn llwyr o achos y pandemig ac mae'r llun yma yn fy atgoffa o gyfnod ble doedd dim syniad gennym ni beth oedd o'n blaenau yn 2020/21.