Marwolaethau Covid ar ei lefel isaf ers dechrau 2022
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y marwolaethau'n ymwneud â Covid yng Nghymru wedi gostwng i'w lefel isaf ers dechrau'r flwyddyn, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Yn yr wythnos ddiweddaraf, hyd at 18 Mawrth, bu farw 30 o bobl yng Nghymru gyda Covid-19 yn cael ei roi fel un o'r achosion ar y dystysgrif marwolaeth.
Mae'n ostyngiad o 25% ar yr wythnos flaenorol, pan fu farw 40 o bobl yn rhannol oherwydd Covid.
Dyma hefyd yr ail ffigwr isaf dros y chwe mis diwethaf.
Ni chafodd yr un farwolaeth Covid ei chofnodi mewn chwe sir yn yr wythnos hyd at 18 Mawrth - Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Sir Ddinbych.
Hyd at y dyddiad hwnnw, roedd 9,855 o farwolaethau'n ymwneud â coronafeirws wedi cael eu cofnodi yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.
Mae'r swyddfa ystadegau hefyd yn cofnodi'r hyn a elwir yn "farwolaethau ychwanegol", sef y gwahaniaeth rhwng y ffigwr ar gyfer marwolaethau o bob achos, a'r nifer cyfartalog dros bum mlynedd mewn cyfnod heb bandemig.
Ers Mawrth 2020, roedd 6,445 o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru na'r ffigwr cyfartalog.
Roedd y nifer yn uwch na'r cyfartaledd yn ail hanner 2021, ond mae wedi cwympo i'r cyfartaledd neu'n is ar gyfer y mwyafrif o 2022.
Bu cyfanswm o 669 o farwolaethau o bob achos yn yr wythnos ddiweddaraf yng Nghymru - 47 (6.5%) yn llai na'r cyfartaledd rhwng 2015-19.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2022