'Tristwch' wedi fandaliaeth i gerfluniau Snoopy
- Cyhoeddwyd
Mae cerfluniau o'r cymeriad cartŵn poblogaidd Snoopy a gafodd eu gosod yn ne ddwyrain Cymru fel rhan o arddangosfa elusennol wedi cael eu difrodi ddau ddiwrnod ar ôl cael eu dadorchuddio.
Bu'n rhaid symud pedwar cerflun, sy'n rhan o daith celf er budd yr elusen Dogs Trust tan ganol Mehefin, ar ôl iddyn nhw gael eu fandaleiddio.
Roedd tri ohonyn nhw yng Nghaerdydd a'r pedwerydd ger Castell Caerffili.
Dywedodd yr elusen bod y fandaliaeth yn destun gofid mawr "nid yn unig i ni ond i'r artistiaid a roddodd gymaint o waith caled i'w dyluniadau".
Mae'r trefnwyr hefyd yn dweud eu bod wedi cysylltu gyda'r heddlu ac maen nhw'n edrych i ffyrdd o geisio atal rhagor o fandaliaeth.
Mae'r llwybr celf awyr agored A Dog's Trail yn cynnwys 40 o gerfluniau mawr o Snoopy a 75 o rai bach.
Cafodd y rhai mawr eu haddurno gan ystod o artistiaid a'r rhai bach gan blant ysgol a grwpiau cymunedol lleol.
Roedd dau o'r cerfluniau a gafodd eu difrodi wedi cael eu haddurno gan fyfyrwyr darlunio Prifysgol De Cymru.
Dywedodd y trefnwyr mai nod y cynllun oedd "dod â phobl de Cymru ynghyd, i fod yn ymwelydd yn eich trefi a dinasoedd a bod yn falch o'r creadigrwydd o fewn y rhanbarth".
Mewn neges Twitter maen nhw'n dweud eu bod "yn obeithiol y gallwn ni atgyweirio'r cerfluniau fel eu bod yn ailymuno â'r haid".
Ychwanegodd y neges: "Rydym yn erfyn ar y cyhoedd i ofalu am ein cerfluniau Snoopy, i ymfalchïo yn y gwaith celf a pheidio dringo neu hongian oddi arnyn nhw, fel eu bod yn parhau i edrych ar eu gorau."
Difrod sylweddol ac annisgwyl
Dywedodd rheolwr prosiect yr elusen, Rebecca Staden bod y fandaliaeth wedi eu tristáu.
"Doeddan ni heb ragweld cweit gymaint o ddifrod mewn cyn lleied o amser," meddai ar raglen Radio Wales Breakfast with Claire Summers.
"Mae'n ddifrod eitha' sylweddol, ond rydyn ni'n gwneud ein gorau ar y funud iddyn nhw gael eu hatgyweirio a'u hailosod mor fuan â phosib.
"Byddwn ni'n chwilio am ffyrdd gwahanol o godi arian i ni allu ariannu hyn a'u cael yn ôl yn y llwybr celf."
"Rydym yn drist ar ran yr artistiaid, y noddwyr a thîm y project ac hefyd pobl Caerdydd achos mae hwn yn arddangosfa am ddim i bawb."
Roedd yn fwriad, meddai, i sicrhau "celf o fewn cyrraedd i bawb, i bobl gael rhywbeth hyfryd heddiw ar draws y ddinas a de Cymru at ei gilydd".
Bydd y cerfluniau yn eu lle am wyth wythnos, tan 5 Mehefin.
Bydd y cerfluniau mawr yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn elusennol wedi hynny er mwyn codi arian ar gyfer canolfannau ail-gartrefi cŵn y Dogs Trust ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd.
Mae'r elusen yn gofalu am ryw 14,000 o gŵn bob blwyddyn.