Cyhuddiad o geisio llofruddio wedi cythrwfl yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Heol yr Orsaf, Brynaman UchafFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Heol yr Orsaf ym Mrynaman Uchaf yn gynnar fore Sadwrn

Mae disgwyl i ddyn fynd o flaen ynadon yn Llanelli ddydd Llun wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio dyn arall mewn pentref yn Sir Gâr.

Galwyd Heddlu Dyfed-Powys i adroddiadau o gythrwfl yn Heol yr Orsaf, Brynaman Uchaf yn ystod oriau mân ddydd Sadwrn, 9 Ebrill.

Cafodd dyn 26 oed ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ond does dim lle ei gredu eu bod yn peryglu ei fywyd.

Mae Andrew Howell, 46, wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio.

Cafodd dau ddyn arall eu harestio ar amheuaeth o affräe a'u rhyddhau'n amodol ar fechnïaeth wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.

Mae'r llu'n apelio am wybodaeth all fod o fudd i'r ymchwiliad.

Pynciau cysylltiedig