O raddio yn Llundain i chwilio am aur yn Nolgellau
- Cyhoeddwyd
Wrth dyfu i fyny ar fferm yn Llannefydd, wnaeth Elin Mars Jones fyth ddychymgu mai ei swydd yn syth ar ôl graddio fyddai chwilio am aur.
Mae'r daearegydd 22 oed yn mwyngloddio am aur yn ardal Dolgellau gyda chwmni ALBA Mineral Resources ers rhai misoedd.
Ond beth ydym yn ei wybod am aur Cymru a sut mae cloddio amdano? Elin Mars Jones fu'n rhannu trysor o wybodaeth ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru.
Ffeindio ei gyrfa drwy gŵglo
Doedd gan Elin ddim syniad pa lwybr gyrfa i'w dilyn tra'n ddisgybl yn Ysgol Glan Clwyd ond yr hyn a wyddai oedd y byddai'n hoffi cael swydd yn yr awyr agored.
Eglura Elin: "Doedd gen i ddim syniad be' oedd daeareg yn yr ysgol ond o'n i'n gwybod y baswn i'n hoffi cael swydd tu allan felly 'nes i fynd ar gŵgl a gŵglo pa swyddi oeddach chi'n medru 'neud tu allan a nath daeareg ddod fyny so nes i benderfynu wna i fynd i'r brifysgol i astudio daeareg. O'n i'n gwbod fod yna wyddoniaeth yn ddod mewn iddo fo hefyd oedd yn atynnu fi ato fo."
Yn ddiweddar enillodd Elin radd meistr mewn daeareg o Imperial College London cyn dychwelyd yn ôl i Gymru a derbyn gwaith fel daearegwr iau.
Mae'r cwmni ALBA Mineral Resources wedi bod yn ymchwilio i ganfod rhagor o aur yn ardal Dolgellau yn y blynyddoedd diwethaf a hynny ar ôl i fwyngloddio am aur yn yr ardal ddod i ben am flynyddoedd; caewyd cloddfa aur Clogau ym Montddu ger Dolgellau yn 1989, a chloddfa aur Gwynfynydd yn 1999.
Mae'r cwmni yn arolygu ardal sy'n ymestyn i 32km a sy'n cael ei adnabod fel 'belt aur Dolgellau'.
Mae'n ardal yn ôl Elin "sy'n ymestyn o Ddolgellau i lawr ac ar hyd afon Mawddach, i fyny at Drawsfynydd a wedyn yn ôl at yr arfordir yn bellach i'r gogledd."
Meddai Elin am ei gwaith: "Mae'n sicr bod aur yn y mynyddoedd yma achos yr ardal yma wnaeth gynhyrchu y mwya' o aur ym Mhrydain - 80 mil owns o aur maen nhw'n meddwl sydd wedi dod allan o gloddfa Clogau felly mae'n amlwg bod digon o aur yma, jest bod angen i ni ei ffeindio fo.
"Be' ydan ni'n 'neud ydi ffeindio'r aur trwy ddefnyddio technoleg gwahanol so un o'r pethau 'dan ni'n edrych 'mlaen i 'neud ydi defnyddio drôn i ddefnyddio magneteg y ddaear i ganfod strwythurau yn y ddaear."
Clympiau Aur Dolgellau
Yr hyn sy'n unigryw am aur ardal Dolgellau yw ei fod i'w ganfod mewn clympiau yn y graig ond dyma hefyd sy'n gwneud y gwaith o'i gloddio yn anoddach.
Eglura Elin: "Dydi'r aur ddim wedi ei wasgaru drwy'r garreg i gyd - mae o'n cael ei ganfod mewn clympiau neu be' ydan ni yn ei alw'n nuggets.
"Be' ydan ni wedi bod yn 'neud ydi drilio mewn i'r ddaear i gael y craidd allan o'r ddaear. Wedyn mi allwch fynd ar hyd y craidd sef tiwb o garreg i weld os oes yna unrhyw awgrym o aur yn y graig.
"Y broblem yn yr ardal yma efo trio canfod yr aur y ffordd yna ydi gan fod yr aur 'mond yn ffurfio mewn clympiau, os 'dach chi'n drilio reit drws nesa i'r clympiau aur wnewch chi ddim ei ganfod o. Felly mae'r drilio yn yr ardal yma yn fwy am ganfod strwythur rili, i ni gael gwybod lle mae'r strwythur yma sydd yn cario'r aur yn bodoli.
Cloddio am aur slawer dydd...
Daethpwyd o hyd i'r aur cyntaf ar hyd 'belt aur Dolgellau' yn 1854 ac er mai codi caib a cholbio'r graig fyddai gweithwyr y mwynfeydd aur yn y dyddiau cynnar, mae'r dulliau chwilio llawer fwy soffistigedig erbyn heddiw.
Eglura Elin: "Mae'r aur yn ffurfio mewn gwythiennau felly be' oedd pobl ers talwm arfer 'neud oedd jest cloddio ar ôl y wythïen ond mae hynna yn costio miliynau felly dydi hynna ddim y ffordd economegol i gloddio am aur.
"Erbyn heddiw 'dan ni'n defnyddio bach mwy o wyddoniaeth i'n helpu ni i ganfod yr aur yma ond mae chwilota'r hen dipiau gwastraff ac ail brosesu darnau o graig dal yn bwysig. Mae siawns bod pobl wedi methu lot o'r aur wrth ddim ond ffeindio y clympiau o'r wythïen oedd hefo aur a thorri'r darn yna i ffwrdd."
Ar hyn o bryd, mae ALBA Mineral Resources wedi darganfod peth aur yn y tomennydd gwastraff ac mae Elin yn aros i'r canlyniadau ddod yn ôl o'r labordy i weld faint o aur sydd ynddo.
Yn anffodus, chaiff Elin ddim dweud os ydy hi'n bersonol wedi dod o hyd i aur.
Hefyd o ddiddordeb: