Ystyried ailagor cloddfa aur Clogau ger Dolgellau
- Cyhoeddwyd
Mae astudiaeth newydd ar waith er mwyn darganfod aur fel rhan o ymgais i ailagor hen gloddfa.
Caeodd gloddfa aur Clogau ym Montddu ger Dolgellau yn 1989, ond mae arbenigwyr yn cynnal arolwg newydd yn yr ardal.
Cwmni Alba Mineral Resources sydd yn gyfrifol am yr ymchwil, ac mae'r cwmni hefyd yn edrych ar ardal 32km o hyd sydd hefyd yn ardal Dolgellau.
Dywedodd rheolwr y cwmni, George Frangeskides mai'r cynllun oedd derbyn caniatâd i agor y gloddfa a darganfod safleoedd newydd i gloddio.
Mae'r cwmni yn berchen ar 90% o Gold Mines of Wales, sydd â hawl gan y teulu brenhinol i gloddio yn yr ardal.
Nid dyma'r unig gwmni sydd yn gobeithio ailddechrau cloddio am aur yng ngogledd Cymru.
Yn ôl cyfarwyddwr technegol Alba, Howard Baker, mae yna tua 300 o hen gloddfeydd ar hyd y "belt aur".
"Rydyn ni wedi amlygu safleoedd cloddio posib sydd yn haeddu ymchwilio pellach," meddai.
"Mae'r gwaith sydd yn cael ei wneud nawr yn torri tir newydd o fewn belt aur Dolgellau. Cyn heddiw does dim archwiliadau modern wedi eu cynnal."
Caeodd cloddfeydd yr ardal oherwydd bod costau alldynnu yn fwy na phris yr aur oedd yn cael ei gynhyrchu, ond erbyn hyn mae pris gwerthu aur bum gwaith yn uwch i gymharu ag ugain mlynedd yn ôl.
Ychwanegodd Mr Frangeskides fod dwy elfen i'r cynllun, ceisio ailagor cloddfa Clogau ac edrych ar y posibilrwydd o chwilio am fwy o aur yn ardal Dolgellau, ond cam nesaf y broses fydd cyflwyno cais i'r awdurdod gynllunio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2017