Cludo rhannau i drwsio ambiwlans o Gymru yn Wcráin

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yr ymosodiad ar yr ambiwlans y tu allan i ysbyty yn ninas Mykolaiv

Mae meddyg o Gymru wedi gyrru trydydd ambiwlans o Ferthyr Tudful i Wcráin gan gludo offer meddygol arbenigol a rhannau sbâr i drwsio ambiwlans gafodd ei ddifrodi gan daflegryn yn gynharach yn y mis.

Cafodd un o'r ambiwlansys sydd wedi cael eu prynu gan griw o feddygon Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ei dargedu ger ysbyty yn ninas Mykolaiv yn ne ddwyrain Wcráin.

Mae olwynion a ffenestr newydd yn barod i gael eu gyrru draw i Mykolaiv, sydd rhwng porthladd Odessa a dinas Kherson, diolch i ymdrechion Dr Aled Jones.

Fe rannodd ei brofiadau wrth siarad gyda Newyddion S4C o dref i'r de o ddinas Lviv yng ngorllewin Wcráin.

Ffynhonnell y llun, Dr Aled Jones
Disgrifiad o’r llun,

Gwirfoddolwyr o Wcráin yn llenwi'r ambiwlans gydag offer meddygol - yr ambiwlans diweddaraf i deithio i'r wlad o Ferthyr Tudful

Ffynhonnell y llun, Dr Aled Jones
Disgrifiad o’r llun,

... a dyma'r ambiwlans a gafodd ei ddifrodi yn yr ymosodiad

"Y fi wnaeth yrru yr ambiwlans yna i Lundain, cyn i wirfoddolwr o Wcráin ei yrru 'mlaen wedyn," meddai.

"Yn ffodus doedd 'na ddim gymaint o ddifrod â hynny wedi'r ymosodiad [ond] mae angen olwynion a ffenest."

Egluro, trefnu, cwblhau ffurflenni

Y tro hwn mi yrrodd Dr Aled Jones yr holl ffordd o dde Cymru i Wcráin.

"Mi gyrhaeddais y ffin tua hanner nos," meddai, "ac mi gymerodd ryw bedair awr i gwblhau'r ffurflenni i gyd ac i geisio egluro pwy oeddwn ni a pham mod i yno.

"Mae 'na lawer o waith i egluro ac i drefnu, a gobeithio y tro nesa' mi allwn ni gael mwy o drefn ar bethau."

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Dr Aled Jones groeso mawr gan bobl y wlad ar ôl gyrru'r ambiwlans i Wcráin dros y Sul

Mae Dr Aled Jones yn bwriadu dychwelyd i Gymru o fewn y dyddiau nesaf cyn paratoi am y siwrne nesaf.

"Mae 'na groeso mawr yma i ni, ac er bo' ni yn nwyrain y wlad, sydd yn gymharol ddiogel, mae'n amlwg o weld y milwyr, y checkpoints a'r bagiau tywod ymhobman ein bod mewn gwlad sydd yng nghanol rhyfel.

"Mi fyddai'n gadael yr ambiwlans yma i rywun eraill ei yrru 'mlaen i le mae'n lawer iawn mwy peryglus.

Ffynhonnell y llun, Dr Aled Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cerbydau a theithwyr yn cael eu gwirio yn Wcráin

"Rydyn ni wedi cael croeso mawr yma, cynnig bwyd a fodca i ni ond â bod yn onest dydw i ddim eisiau bwyta eu bwyd prin nhw ac yfed eu diod. Dwi yma i helpu."

Cafodd apêl GoFundMe Ambulance for Ukraine, dolen allanol ei sefydlu gan Dr Mateo Szmidt, meddyg o Wlad Pwyl sy'n gweithio yn ne Cymru.

Mae'r apêl wedi codi dros hanner y targed o £50,000 ac eisoes wedi gyrru tri ambiwlans i Wcráin ond y gobaith yw danfon llawer iawn mwy o offer ac ambiwlansys i faes y gad.