Parafeddyg wedi marw ar ôl gwrthdrawiad pum cerbyd
- Cyhoeddwyd
Mae parafeddyg wedi marw ar ôl i'w feic modur fod mewn gwrthdrawiad gyda phedwar cerbyd arall yn sir Conwy.
Roedd Mark Pell, 51, yn gyrru ar yr A5 ym Mhentrefoelas pan gafodd ei anafu ychydig wedi 14:30 ddydd Iau, 7 Ebrill.
Roedd yn un o ddau barafeddyg o Lundain a oedd ar gwrs hyfforddi gydag Uned Hyfforddiant Gyrwyr Heddlu Gogledd Cymru pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng lori, tryc a thri beic modur.
Cafodd y beicwyr modur eu cludo mewn hofrennydd Ambiwlans Awyr i'r ysbyty yn Stoke.
Fe gafodd un adael yr ysbyty yn ddiweddarach a chafodd dau berson arall o'r lori eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor mewn ambiwlans.
Ond bu farw Mr Pell o'i anafiadau yn yr ysbyty fore Mercher.
Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Llundain fod Mr Pell wedi ymuno â nhw ym mis Awst 1994.
"Heb os, roedd Mark yn ymgorffori popeth sy'n wych am Wasanaeth Ambiwlans Llundain, ac mae dyled fawr i Lundain a Llundeinwyr am ei 28 mlynedd o wasanaeth ymroddedig," meddai prif weithredwr y gwasanaeth, Daniel Elkeles.
"Bydd colled fawr ar ei ôl."
Dywedodd yr Uwcharolygydd Alex Goss o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'n drist iawn colli un o'n cydweithwyr o'r Gwasanaethau Brys a chydymdeimlwn gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr Mr Pell yn y cyfnod anodd hwn."
Cafodd y mater ei gyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), sydd wedi penderfynu y dylai'r ymchwiliad gael ei reoli'n lleol gan Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r llu yn apelio am wybodaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2022